Vaughan Roderick yn 'cario mlaen fel o'r blaen' yn dilyn llawdriniaeth sylweddol
Mae'r newyddiadurwr a'r sylwebydd gwleidyddol Vaughan Roderick wedi dweud ei fod yn gwneud ei orau "i gario malen fel o'r blaen" yn dilyn llawdriniaeth arweiniodd ato'n colli coes.
Mewn blog ar wefan BBC Cymru Fyw, dywedodd Mr Roderick fod "tuedd i ni gyd feddwl bod rhai pethau yn y byd yma'n wydn ac yn ddigyfnewid.
"Dyna oeddwn i'n meddwl am fy nwy goes, er enghraifft, ond nid felly y bu pethau. Fe ddiflannodd un ohonynt i'r mwg uwchben ysbyty'r Mynydd Bychan ar ôl i fân law-feddyginiaeth droi'n dipyn o saga."
Ychwanegodd mai dyna oedd y rheswm pan nad oedd wedi ymddangos ar y tonfeddi dros y misoedd diwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Rydym wedi bod yn cefnogi Vaughan drwy gyfnod o salwch diweddar ac rydym ni, fel cynulleidfaoedd ledled Cymru, yn dymuno’n dda iddo. Edrychwn ymlaen at ei groesawu yn ôl pan mae’n barod i wneud hynny”.
Ychwanegodd Vaughan: “Ma pethe fel hyn yn digwydd yn anffodus, a does dim rheswm pam na ddyle fo ddigwydd i fi! Rwy’n gwneud fy ngore nawr i gario mlaen fel o’r blaen.”