Newyddion S4C

Gweithwyr ambiwlans yn mynd ar streic 24 awr

21/12/2022

Gweithwyr ambiwlans yn mynd ar streic 24 awr

Bydd gweithwyr ambiwlans yng Nghymru a Lloegr yn streicio ddydd Mercher. 

Fe bleidleisiodd dros 10,000 o weithwyr yng Nghymru a Lloegr o blaid streicio oherwydd eu bod yn anfodlon â'u cyflogau.  

Mae'r cynnig o 4% o godiad cyflog yn cynrychioli "toriad cyflog mewn gwirionedd" medd undebau gan nad yw'n unol â chyfradd chwyddiant. 

Mae gweithwyr ambiwlans hefyd yn bwriadu streicio ar 28 Rhagfyr. 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru nad oes unrhyw gynlluniau i ddefnyddio'r fyddin i yrru ambiwlansys yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, nad oes "amheuaeth y bydd y ddau ddiwrnod o weithredu diwydiannol, yn fuan iawn ar ôl gweithredu gan nyrsys a achosodd oedi yn nhriniaeth miloedd o gleifion yng Nghymru, yn rhoi pwysau aruthrol ar y gwasanaethau ambiwlans.

"Mae’n bwysig eich bod yn ffonio 999 os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ond mae’n rhaid i bob un ohonom ystyried yn ofalus iawn sut rydym yn defnyddio’r gwasanaethau ambiwlans ar y diwrnodau hyn."

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eisioes wedi rhybuddio mai dim ond salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd fydd yn derbyn ymateb brys yn ystod y streiciau, gyda disgwyl na fydd cleifion ag anafiadau llai difrifol yn cael ambiwlans. 

'Gofal ychwanegol'

Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, Steve Barclay, wedi annog y cyhoedd i gymryd “gofal ychwanegol” wrth i staff ambiwlans streicio.

Mewn datganiad, disgrifiodd Mr Barclay y gweithredu gan staff yng Nghymru a Lloegr fel rhywbeth yr oedd yn ei ddifaru'n fawr a dywedodd mai ei “brif flaenoriaeth” yw diogelwch cleifion.

Gyda llai o ambiwlansys ar y ffordd, fe apeliodd ar bobl i gynllunio eu gweithgareddau “yn unol â hynny” ag edrych ar ôl cymdogion a theulu bregus.

“Mae ein staff ambiwlans yn hynod ymroddedig i’w swydd ac mae’n destun gofid mawr bod rhai aelodau undeb yn bwrw ymlaen â'r streic. Fy mhrif flaenoriaeth yw cadw cleifion yn ddiogel,” meddai.

“Mae’r Llywodraeth a chydweithwyr yn y GIG wedi bod yn gweithio i amddiffyn lefelau staffio diogel. Fodd bynnag, bydd llai o ambiwlansys ar y ffordd oherwydd gweithredu diwydiannol a bydd y GIG yn blaenoriaethu’r rhai ag anghenion sy’n bygwth bywyd.

“Fy neges i’r cyhoedd yw i gymryd gofal arbennig a chynllunio’ch gweithgaredaud yn unol â hynny. Efallai y byddwch hefyd am wirio ffrindiau, teulu a chymdogion mwy bregus.”

Llun: GMB

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.