Rali yn galw am fesurau i ddatrys 'problemau ehangach' ail dai
Rali yn galw am fesurau i ddatrys 'problemau ehangach' ail dai
Cafodd rali ei gynnal yn Llanrwst ddydd Sadwrn er mwyn galw am fesurau i ddatrys problemau ehangach ail dai.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, a drefnodd y rali, ymgyrchu sydd wedi arwain at fesurau i fynd i'r afael ag effaith ail dai a thai gwyliau.
Mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi galw am Ddeddf Eiddo er mwyn ei gwneud hi'n haws i grwpiau cymunedol brynu eiddo ar gyfer defnydd y gymuned.
Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod wedi ymrwymo i "weithredu ar frys" i ymateb i'r sefyllfa.
Roedd ffigyrau diweddaraf y Cyfrifiad yn dangos bod 24,000 yn llai o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru yn 2021 nag oedd yn 2011.
Mae'r Gymdeithas yn dweud bod y gostyngiad yn nifer y siaradwyr mewn ardaloedd fel Conwy yn rhannol am fod pobl yn "gorfod gadael" eu cymunedau.
Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Rhaid cadw'r Gymraeg fel iaith gymunedol yn ei chadarnleoedd traddodiadol, a datblygu hyder ein pobl i ymestyn y Gymraeg i'r ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn brin.
"Gofynnwn i Lywodraeth Cymru a'r Awdurdodau Lleol wneud popeth posib i rymuso ein pobl. Gofynnwn i bobl Cymru drwyddi draw godi eu lleisiau yn erbyn y gormes hwn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn credu bod gan bawb yr hawl i dai dechau, fforddiadwy neu i rentu yn eu cymunedau fel eu bod yn gallu byw a gweithio'n lleol.
"Rydym yn ymrwymedig i weithredu ar frys ac yn radical gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthi i wireddu hyn, gyda'r cynnydd yn y premiwm treth cyngor uchaf y mae cynghorau yn gallu ei godi yn un rhan yn unig o becyn cysylltiedig o atebion."