Dyfodol siopau tecstiliau Shaws yn ansicr
17/12/2022
Mae dyfodol siopau Shaws, un o gwmnïau teuluol mwyaf adnabyddus y stryd fawr yn y de yn ansicr.
Cafodd Shaws ei sefydlu dros ganrif yn ôl, er mwyn gwerthu tecstilau, llenni a dillad gwely.
Mae'r staff wedi cael llythyr yn dweud bod y cwmni'n wynebu cyfnod heriol, a bod rhaid gwerthu stoc cyn y Nadolig.
Mae gan y cwmni 15 o siopau ar draws y de o Hwlffordd i Gasnewydd.
Yn ôl un o'r perchnogion y bwriad yw "parhau fel yr arfer".