
Artist awtistig o Gaerdydd yn gwerthu ei luniau i sêr Las Vegas
Artist awtistig o Gaerdydd yn gwerthu ei luniau i sêr Las Vegas
Mae artist awtistig o Gaerdydd wedi creu cysylltiad annisgwyl gyda rhai o sêr Las Vegas o ganlyniad i'w dalent arlunio.
Mae gan Chris Baker, sydd â syndrom Asperger, y gallu i greu lluniau hynod o realistig gyda dim ond pensel.
Bellach mae talentau Chris wedi derbyn sylw rhyngwladol, wrth i sêr un o'r rhaglenni teledu mwyaf poblogaidd yn yr UDA ddotio ar ei waith.
Mae Rick Harrison yn rhan o'r gyfres Pawn Stars, sydd yn dilyn siop yn Las Vegas sydd yn prynu ac yn gwerthu nwyddau prin a gwerthfawr.

Wedi i un o dîm Rick gwrdd â Chris yn ComicCon yng Nghaerdydd, mae ei waith celf wedi ei arddangos ar furiau'r Gold and Silver Pawn Shop sydd yn rhan ganolog o'r gyfres deledu.
Mae nifer o enwogion eraill hefyd wedi ymddiddori yn nhalentau Chris, gyda rhai o enwau mwyaf adnabyddus y byd yn prynu ei waith. Mae'r artist ifanc wedi cael y gyfle i gwrdd â Syr Ian McEllen, Benedict Cumberbatch, a David Walliams ymysg eraill.
I rieni Chris, mae llwyddiant ei fusnes wedi gwneud byd o wahaniaeth i'w hyder a'i iechyd meddwl.
"Mae'r tantrymau gymaint yn llai nawr, oedden nhw arfer bod yn bob dydd ond dwi methu cofio pryd oedd yr un diwethaf," meddai ei fam, Samantha.
"Mae ei iechyd meddwl gymaint yn well nawr, ac mae’n ddyn ifanc hapus iawn.”

Ychwanegodd ei dad, Stuart, bod Chris yn berson gwahanol ers iddo ddechrau arlunio.
"Mae wir wedi gwella ei hyder, doedd e ddim yn meddwl byse unrhyw un eisiau ei luniau felly mae wir wedi gwella ei hyder.”
'Math o therapi'
Cafodd Chris ddiagnosis o syndrom Asperger yn saith oed. Erbyn iddo droi yn 14, roedd ei rieni wedi'i dynnu allan o addysg llawn amser gan "nad oedd digon o gefnogaeth iddo."
“Fe wnaeth y system addysg ddweud wrth Chris ni fyddai fyth yn llwyddo i wneud dim oherwydd doedd o ddim yn hoffi cyfathrebu 'da pobl," meddai.
“Ond mae yn cyfathrebu - mae jyst yn neud e mewn ffordd wahanol.”

Yn lle mynd i'r ysgol fe wnaeth Chris ddysgu ei hun sut i arlunio, gan ddefnyddio dim ond pensel i ddod â rhai o'i hoff gymeriadau yn fyw.
Ers iddo droi yn 18, mae celf wedi bod yn fusnes llawn amser i Chris a'i dad Stuart.
Yn ôl Stuart a Samantha, y peth pwysicaf am y busnes yw bod Chris yn hapus.
“Oedd fi a fy ngŵr yn meddwl 'sut mae Chris yn mynd i allu ymdopi a bywyd, beth mae mynd i neud?" meddai Samantha.
“Felly i gael sefyllfa lle mae'n gwneud be sydd yn wneud e’n hapus ac yn gyfforddus iddo fe, mae'n anhygoel.
"Fe wnaeth yr arlunio ddechrau fel therapi iddo, a dyna’r peth pwysig, mae’r busnes jyst ar yr ochr," ychwanegodd Stuart.
“Dwi mor prowd ohono fe, a dwi jyst yn falch dwi’n gallu helpu fe ar y ffordd.”
'Rhoi llais' i'r gymuned awtisitg
Nid er lles Chris yn unig mae'r gwaith celf meddai ei rieni.
Maen nhw hefyd yn credu fod y gwaith yn bwysig i ddangos talentau pobl gydag awtistiaeth.

Mae'r rhieni yn ceisio eu gorau i chwalu unrhyw stigma o gwmpas awtistiaeth wrth iddynt helpu Chris gyda'i fusnes.
“Ni wedi siarad gyda gymaint o bobl sydd gyda theulu sydd ar y spectrwm sydd wedi dweud pa mor hyfryd yw e i weld rhywbeth mor bositif gan rywun gyda aspergers," meddai Samantha.
“Mae hyn yn galluogi Chris i gael incwm, ond mae hefyd yn galluogi ni i roi llais i’r gymuned awtistig.
“Mae na lot o bositifrwydd i gael ymennydd sydd yn gweld pethau’n wahanol.”
Dywedodd Stuart fod Chris yn dangos i deuluoedd beth all eu plant awtistig ei wneud.
"Pan mae’n nhw’n gweld hyn, mae rhoi ychydig o ysbrydolaeth iddyn nhw i ddangos bod nhw yn gallu gwneud beth bynnag maen nhw eisiau.
“Dwi wedi siarad gyda chwpl yn y farchnad sydd â merch saith oed awtistig sydd nawr wedi dechrau arlunio oherwydd ysbrydolaeth gan Chris.”

Mae busnes Chris yn mynd o nerth i nerth, a gyda help Rick a'r tîm o siop Pawn Stars mae mwy a mwy o bobl yn cymryd sylw o'i gelf.
Y gobaith yw gwneud mwy yn Las Vegas yn y dyfodol, a hefyd dechrau adran ffotograffiaeth i'r busnes i gydfynd gyda'i gelf realistig.
“Mae Rick wedi dweud wrth Chirs, dim ond y dechrau ydy hwn, mae gymaint mwy i ddod," meddai Samantha.