Newyddion S4C

Mwy o bobl yn marw o alcohol nag erioed o’r blaen yng Nghymru

Newyddion S4C 12/12/2022

Mwy o bobl yn marw o alcohol nag erioed o’r blaen yng Nghymru

Roedd y nifer a fu farw yn sgil problemau alcohol ar ei lefel uchaf erioed yn 2021.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau, bu farw 472 o bobl y  llynedd yng Nghymru, oherwydd problemau yn gysylltiedig ag alcohol.

Mae hynny gyfystyr â 15 ym mhob 100,000 person – mwy’r na’r cyfartaledd drwy’r Deyrnas Unedig.

Mae hynny hefyd 28.3% yn uwch na’r nifer fu farw yng Nghymru yn 2019, gyda Covid yn un ffactor sy’n cael ei awgrymu am y cynnydd.

Ond mae’r cynnydd wedi bod yn waeth ymysg dynion.

O’r 472 o farwolaethau a gafodd eu cofnodi yn 2021, roedd 325 ohonynt yn ddynion – cynnydd o 42% ers 2019, o’i gymharu â chynnydd o 5.4% i fenywod (147 o farwolaethau yn 2021).

Nol yn y flwyddyn 2000, ac yntau yn 39 oed bu farw Aled Hughes o alcoholiaeth. Erbyn diwedd ei oes, mi roedd e’n denau ac yn wan, medd ei chwiorydd o Sarn Mellteyrn ym Mhen Llŷn. 

"Do'dd o'm yn gweld y peryg dwi'm yn meddwl," meddai Linda Hughes. 

"Ond, do'r ots gynno. Wnaeth o ddim dangos dim dafn o ots."

"Oedd o'n hollol felyn, fath â daffodil melyn, lliw melyn melyn i gyd. Llygadau fo lond liquid, fatha liquid gold."

Image
Carys a Linda Hughes
Mae chwiorydd Aled Hughes wedi trafod yr effaith gafodd alcohol arno

"Mi ffraeon ni tan y funud dwetha', do," ychwanegodd ei chwaer, Carys. 

"Rhaid imi ddeud, fedrwn i ddim, do'dd o'm yn Aled."

"Do'dd o'm yn fatha brawd i ni, os 'da chi'n gwybod be' dwi'n feddwl? Fatha ers talwm, nag oedd."

Yn ôl Andrew Misell o Alchohol Reform UK, mae'r pandemig yn parhau i gael effaith ar arferion alcohol pobl yng Nghymru. 

"Mae’n weddol amlwg dwi’n meddwl bod ni’n dal i fyw i raddau yn cysgod y pandemig," meddai.

"Mi oedd 'na rhyw draean o bobl oedd yn yfed mwy. Y peth falle sy' 'di synnu rhai ohono ni dwi'n meddwl yw mor gyflym ma'r ffigyrau 'di newid.

"Ni 'di arfer â dweud bod gor yfed yn rhywbeth sy'n lladd rhywun dros ddegawdau. A dwi'n meddwl bod llawer ohono ni 'di synnu bod y cynnydd eitha' sydyn y llynedd, ac eto yn ffigyrau eleni."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.