Eira’n fwy tebygol ar draws Cymru yn y flwyddyn newydd
Eira’n fwy tebygol ar draws Cymru yn y flwyddyn newydd
Mae mwy o debygrwydd i eira ddisgyn ar ôl Nadolig yn hytrach nag ar ddiwrnod yr ŵyl yn ôl arbenigwyr y tywydd.
Mae eira wedi disgyn ar dir uchel ar draws Cymru yn ystod y penwythnos ac mae’r rhagolygon am y tywydd oer yn parhau dros y dyddiau nesaf.
Ond mae arbenigwyr yn rhagweld fod y tebygrwydd o eira yn disgyn ar ddiwrnod Nadolig yn mynd i fod yn llai yn sgil newid hinsawdd, gyda mwy o siawns i eira ddisgyn ar ôl cyfnod y Nadolig.
Yn ôl cyflwynydd tywydd S4C Megan Williams, mae tri rheswm am hynny.
Mae’r tir wedi cael mwy o gyfle i oeri, mae’r môr hefyd wedi oeri ac mae lleoliad a chyfeiriad y jetlif yn bwysig.
Dywedodd Megan: “Mae’r syniad o ddeffro ar fore dydd Nadolig gydag eira o gwmpas yn hyfryd ond mewn gwirionedd mae’r siawns o Ddolig gwyn fel gawsom ni yn 2009 a 2010 yn isel.
"Chwefror yw’r mis mwyaf tebygol ar gyfartaledd am eira a’r rheswm yw bod Ionawr a Chwefror yn ddyfnach i fewn i dymor y gaeaf. Mae tir cyfandir Ewrop a Phrydain wedi cael cyfle i oeri a thymheredd y môr sy’n amgylchynu ni ar ei isaf yn ystod y misoedd hynny.
"Hefyd yn dibynnu ar leoliad y jetlif os fydd aer oer dwyreiniol neu ogleddol o Siberia neu’r Arctig yn dylanwadu mae’r siawns o dywydd gaeafol yn cynyddu.
"Eleni mae ffenomenon tywydd La Nina ar ei anterth. Dyma’r digwyddiad naturiol sy’n gostwng tymheredd ar wyneb y cefnfor tawel ac yn effeithio ar dywydd byd eang. I ni mae’n dod a dechrau oer i’r gaeaf ac eleni mae dechrau mis Rhagfyr wedi bod yn aeafol.
"Mae cyfnod y Nadolig ar hyn o bryd yn edrych yn fwynach ac wrth i ni weld newid yn yr hinsawdd mae arbenigwyr yn rhagweld ymhen 20 i 40 o flynyddoedd y bydd y siawns o eira yn brin yn ystod y Nadolig ond hefyd gydol y gaeaf."