Newyddion S4C

Pedwar ffrind yn gweld y byd ond yn setlo'n bell o adref

14/12/2022

Pedwar ffrind yn gweld y byd ond yn setlo'n bell o adref

Mynd ar daith antur i weld dipyn o rygbi yn Seland Newydd oedd bwriad pedwar ffrind o Dde Cymru ar ddechrau’r 70au.

Ond wnaethon nhw erioed gyrraedd. Yn lle hynny fe gawson nhw flas ar Awstralia a bron hanner canrif yn ddiweddarach mae nhw yno o hyd. 

Roedd y dynion yn ffrindiau ysgol ac yn chwarae rygbi efoi’i gilydd ym Mhontyclun, Rhondda Cynon Taf. Yn 1973 fe benderfynodd y pedwar - Michael Casley, Denis Ward,David Bonner a Michael Jones godi eu pac.

Y nod oedd cyrraedd Seland Newydd, ond fe newidiodd y cynllun. “Odd bywyd yn rhy dda yn Perth, yn western Awstralia,” meddai David Bonner neu Dai fel mae'n cael ei adnabod. Ac yn Awstralia mae’r ffrindiau hyd y dydd heddiw.

Yn 2020 fe aethon nhw ati i ysgrifennu yr hanes. Y bwriad yn ôl Dai Bonner oedd llunio rhywbeth oedd  yn ‘ddogfen hanesyddol’ i’w teuluoedd. Teitl y llyfr yw ‘And they said we wouldn’t make it’.

Image
Y pedwar yn teithio'r byd
Y peth gorau am y daith meddai Dai oedd eu bod nhw i gyd wedi cyd-dynnu mor dda

 

Y gred gan eu teuluoedd a’u ffrindiau oedd y bydden nhw adref cyn dim. Dyna oedd wedi digwydd i ddau arall o’r clwb rygbi oedd wedi troi yn ôl ar ôl cyrraedd Groeg.

“Odd pobl ddim yn neud hwnna ar y pryd hynny o Gymru. Odd e reit adventurous!” meddai Dai.

Fe fuon nhw’n teithio am bum mis yn y pen draw. “Odd y trip yn ffantastig, mynd trwy wledydd fel Affganistan, Pacistan, India, llefydd fel cerdded nôl mewn i’r Beibl yn Affganistan, Kabul a Herat.

“Mae bron 50 mlynedd yn ôl ac mae pethau yn wahanol tro ma…Ac wrth gwrs dim internet, dim mobile phones. Communication - o’n i jest yn dweud wrth rieni ni, ‘We’ll be in Kabul roughly in this two week period’ ac o’n nhw yn hala llythyron aton ni.”

Prynu car mewn ocsiwn yn Y Barri am £52 wnaethon nhw cyn dechrau ar eu taith a’i werthu yn Athen am £80. Cafodd Dai ei brofiad cyntaf o hedfan mewn awyren ac fe ddefnyddion nhw bob math o drafnidiaeth wrth fynd o le i le.

Image
Y pedwar yn teithio'r byd
Dim ond camera bach oedd ganddynt gyda ffilm du a gwyn pan aethon nhw i deithio 

“O’n nhw yn dweud bod yr hippy trail yn mynd o Gymru lawr i Awstralia a cwrdd â phobl o dros y byd i gyd.”

Tra nad oedd ei rieni o yn poeni eu bod nhw yn mynd ar y trip roedd mam a thad Dennis, oedd cyn hynny wedi bod yn hogyn ei filltir sgwâr, yn fwy pryderus.

Mae’n cofio nhw yn dweud ffarwel ond yn sylwi ar gar cyfarwydd yn eu dilyn.

Yn ôl i Perth

“Pryd o’n i yn mynd lawr i Gaerdydd yn y car o’n i yn gweld mam a dad Dennis yn trafeilio tu ôl i ni! So o’n i yn speedo lan time bach ac wedyn o’n nhw yn gadael ni i fynd ar y motorway.”

Fe ddaeth Dai a Dennis Ward yn ôl i Gymru am gyfnod byr ar ôl treulio amser yn Awstralia. Roedd Dai wedi cael lle i wneud cwrs ymarfer dysgu a bu’n athro am ddwy flynedd.

“Ond o’n i yn meddwl, na mae lle nôl i fi yn Perth, Perth o’n i eisiau mynd. O’n nhw eisiau dysgwr mathematics yn Perth ac dyna beth ges i jobyn a mynd nôl i Perth. Odd hwnna yn 1977 ac ers hynny wedi bod yma.” 

Tra bod y “galon weithiau” yn meddwl a ddylai fod wedi aros yng Nghymru dydy o ddim yn difaru ymgartrefu yn Awstralia. Mae’n ymwneud a Chôr Meibion Perth. Yno mae Cymry eraill yn aelodau ac maent wrthi yn trefnu taith o gwmpas gogledd Cymru yn 2024.

Image
Y pedwar ffrind heddiw
Er eu bod nhw yn dadlau am rygbi mae'r pedwar yn ffrindiau oes (Chwith i'r dde- David Bonner, Denis Ward, Mike Jones a Mike Casley)

Mae hefyd wedi ail afael yn ei Gymraeg ac yn cyfarfod yn aml gydag aelod arall o’r côr, Ellis Griffiths, sydd hefyd yn dod o Gymru.

“Ma’ fe a fi yn cwrdd bron bob dydd Gwener i siarad Cymraeg achos my Welsh is not perfect of course. Ond mae’r Gymraeg llawer gwell nawr nag odd e pedair mlynedd yn ôl.”

Fe wnaeth teithio’r byd yn y 70au gryfhau cyfeillgarwch y pedwar ffrind ysgol meddai. Mae’r pedwar yn byw o fewn 20 milltir i’w gilydd yn Perth.

“Mae Whatsapp grwp da ni, Pont-y-clun boys, Ponty boys yw’r Whatsapp grwp.”

Maent yn gweld ei gilydd yn aml ac wedi cwrdd ddechrau’r mis am ddiod Nadoligaidd. Maent wedi bod wrth eu bodd ar hyd y blynyddoedd yn hel atgofion.

Friends for life maen nhw’n dweud, definitely.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.