Newyddion S4C

Pryderon am addysg hanes Cymru mewn ysgolion

Newyddion S4C 02/12/2022

Pryderon am addysg hanes Cymru mewn ysgolion

Mae pryderon wedi eu codi dros ddiffyg hyfforddiant ac adnoddau i athrawon hanes mewn ysgolion yng Nghymru.

Fel rhan o gwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru, mae dysgu hanes Cymru bellach yn orfodol i ysgolion uwchradd a chynradd.

Ond mae rhai o haneswyr amlycaf y wlad yn poeni na fydd rhai ysgolion yn gallu dysgu’r pwnc i’r safon uchaf.

Lloegr yn ennill Cwpan y Byd neu Aberfan?

“Am beth ’da chi’n feddwl pan dwi’n dweud y dyddiad 1966?” Dyna mae Dr Huw Griffiths, ymgynghorydd addysg, yn ei ofyn.

Byddai’r rhan fwyaf, meddai, yn ateb trwy ddweud, “Lloegr yn ennill Cwpan y byd,” ond yr hyn “ddylai” plant Cymru fod yn ei ateb ydy: “Aberfan.”

“Mae’n drueni hefyd meddwl bod ein plant a phobl ifanc yn gwybod am 1066, ond ddim yn gwybod 1282.”

Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru – sydd wedi gwneud hanes Cymru yn rhan flaenllaw o’r Cwricwlwm newydd i ysgolion – yn ymdrech i newid y sefyllfa.

“Diffyg gwybodaeth"

Ers blynyddoedd, mae unigolion a mudiadau wedi ymgyrchu i wneud dysgu hanes Cymru mewn ysgolion yn rhan orfodol o’r cwricwlwm, ond nawr bod hynny wedi’i wireddu, sut fydd hynny’n cael ei ddysgu?

“Rwy’n sicr yn credu bod diffyg gwybodaeth allan yna,” meddai Dr Griffiths.

“Fel rhywun sydd wedi gweithio i’r consortia, galla i ddatgan yn glir bod dim arbenigedd mewn unrhyw gonsortiwm yng Nghymru ar y foment o ran hanes Cymru.

“Ac yn sicr, mae angen llenwi’r bwlch yna.”

“Dim arweiniad i athrawon”

Un hanesydd blaenllaw sy’n cytuno â Dr Griffiths ydy Dr Elin Jones. Mae ei llyfr ar hanes Cymru, Hanes yn y Tir, bellach i’w weld ym mhob ysgol drwy Gymru.

“Fy mhryderon i ar hyn o bryd ynglŷn â hanes Cymru yw y byddwn ni yn yr un sefyllfa ag o’n ni ugain mlynedd yn ôl, pan fi oedd yn gyfrifol am y cwricwlwm hanes.

“Ry’ch chi’n gallu dweud beth sydd fod i ddigwydd, ond chi ddim yn gallu gwarantu bod e yn digwydd.

“Felly mae ishe mwy na deddfu, mae ishe mwy na dweud beth sydd eisiau ei wneud, mae’n rhaid dangos i athrawon siwt mae’i wneud e, siwt mae integreiddio hanes lleiafrifoedd ethnig i hanes Cymru, siwt mae pasio hanes Cymru i’r persbectif ehangach.

“Mae e’n broses, ac mae e’n gymhleth. Dwi ddim yn gweld bod unrhyw arweiniad ar hyn o bryd i athrawon ynglŷn â shwt i’w wneud e.”

Un broblem sy’n cael ei hawgrymu gan Dr Griffiths ydy’r ffaith fod cynifer o athrawon hanes yn astudio “hanes yr UDA a’r Natsïaid yn y brifysgol,” ac felly nad ydy’r arbenigedd gyda nhw i ddysgu eu disgyblion am hanes Cymru ar ôl iddyn nhw raddio.

“Hyfforddiant ac adnoddau”

Iwan Jones ydy Pennaeth y Dyniaethau yn Ysgol Bryniago ym Mhontarddulais.

Er mai hanes Cymru oedd ei bwnc arbenigol ef yn y brifysgol, mae’n cydnabod nad yw pawb yn teimlo mor gyfforddus yn dysgu disgyblion am hanes eu gwlad.

“Mewn ysgolion cynradd yn enwedig, ddim pawb sy’n arbenigo yn hanes Cymru, felly yn sicr mae ishe hyfforddiant ac adnoddau ar athrawon.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Hanes Cymru wedi bod yn orfodol ers cyflwyno'r cwricwlwm newydd ym mis Medi ac rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ar newidiadau arfaethedig i Cod y Datganiad o’r hyn sy’n bwysig er mwyn cyfeirio'n benodol at hanes Cymru a'r byd.

“Byddwn ni'n comisiynu llinell amser o hanes Cymru i gefnogi ysgolion gyda'r newid hwn.

"Rydym wrthi'n comisiynu deunyddiau ategol er mwyn galluogi athrawon i gynllunio eu cwricwlwm i adlewyrchu hanes a chymunedau amrywiol Cymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys haneswyr ac academyddion, dros y misoedd nesaf i edrych ar ffyrdd pellach o gefnogi athrawon."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.