Newyddion S4C

Trafferthion teithio i nifer o gefnogwyr Cymru cyn y gêm yn erbyn Iran

25/11/2022

Trafferthion teithio i nifer o gefnogwyr Cymru cyn y gêm yn erbyn Iran

Mae nifer o gefnogwyr Cymru wedi profi trafferthion teithio cyn y gêm dyngedfennol yn erbyn Iran ddydd Gwener.

Mae nifer o gefnogwyr wedi eu lleoli yn Dubai, ac felly yn teithio oddi yno i Qatar ar gyfer y gemau, ond yn sgil rheolau Visa Qatar, sydd yn golygu fod yn rhaid cael cerdyn Hayya dilys, mae nifer wedi profi trafferthion. 

Er ei fod wedi llwyddo i gyrraedd Doha yn ddi-drafferth ar gyfer y gêm gyntaf yn erbyn UDA ddydd Llun, un sydd wedi cael trafferth ydi Hywel Price o Gaerdydd, a dywedodd wrth y BBC fore dydd Gwener fod yna "broblemau mawr gyda'r cerdyn Hayya, sydd yn orfodol i bawb ei gael, i fynd mewn i'r wlad felly ma' 'na brobleme yn codi 'da rhai.

"Fi'n un o'r rhai anlwcus - bore 'ma pan o'n i'n gadel Dubai, o'dd yr hediad am 06:20 i fynd mewn i Doha felly codi tua 02:30, tacsi mewn i'r maes awyr, a gath y cerdyn Hayya ei wrthod gan yr awdurdode a ddim yn caniatau i mi fynd ar yr awyren."

Roedd Mr Price ymysg 13 o gefnogwyr Cymru eraill a wnaeth ddangos eu cerdyn Hayya i'r awdurdodau, ond "roedd y cerdyn yn cario ymlaen i ddweud bod e'n pending, er bod e'n gweithio ddoe a wedyn yn sydyn, ddim yn gweithio bore 'ma,  felly ma' 'na brobleme enfawr," meddai. 

Doedd dim cymorth i'w gael meddai Mr Price ac ychwanegodd "dylai ryw gynrychiolydd sy'n gweithio i'r cerdyn Hayya fod ymhob maes awyr neu ddinas lle mae cefnogwyr yn croni er mwyn helpu nhw." 

"Dwi'n amau yn fawr iawn y byddai yn y gêm Lloegr ar y funud," meddai Mr Price. 

Fe wnaeth y cyflwynydd Eleri Sion hefyd drydar fore Gwener i ddweud fod nifer wedi profi trafferthion a bod 78 o gefnogwyr Cymru wedi eu gwrthod rhag hedfan, sydd yn "hunllef pur i bobl a gafodd fynd i'r gêm gyntaf yn erbyn UDA ond ddim heddiw gan bod eu cardiau Hayya heb eu awdurdodi."

Dywedodd Llysgenhadaeth Prydain yn y Yr Emiradau Arabaidd Unedig fod modd cysylltu gyda Chanolfan Gyswllt Qatar 2022 os oes yna bobl yn profi trafferthion mewn meysydd awyr. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.