90 munud i greu hanes: Her enfawr i Gymru yn erbyn Iran
Bydd Cymru yn wynebu Iran fore Gwener mewn gêm sydd yn rhaid ei hennill os ydynt yn gobeithio cael llwybr allan o Grŵp B.
Wedi gêm gyfartal yn erbyn UDA ddydd Llun, bydd tîm Rob Page yn gobeithio manteisio ar golled sylweddol Iran yn erbyn Lloegr a hawlio triphwynt hollbwysig cyn wynebu tîm Gareth Southgate ddydd Mawrth.
Bydd Iran yn benderfynol o ymateb yn gryf yn dilyn y golled o 6-2 yn erbyn Lloegr, a bydd yn rhaid i Gymru geisio ailgreu eu perfformiad yn ail hanner y gêm yn erbyn UDA, yn hytrach na'r cyntaf.
Sgoriodd Gareth Bale o gic o'r smotyn er mwyn sicrhau fod breuddwydion Cymru yng Nghwpan y Byd yn parhau yn fyw.
Un newid yn unig sydd wedi cael ei wneud i Gymru gyda Kieffer Moore yn cychwyn yn lle Dan James, gyda Joe Allen yn dychwelyd i'r fainc.
Mae Aaron Ramsey, Ben Davies, Connor Roberts, Neco Williams ac Ethan Ampadu hefyd i gyd yn cychwyn.
Bydd Gareth Bale yn chwarae yn ei 110fed gêm ryngwladol dros Gymru ddydd Gwener, gan olygu mai capten Cymru fydd y chwaraewr sydd wedi chwarae y mwyaf o gemau dros Gymru erioed.
Hosseini sydd yn cychwyn fel gôl-geidwad i Iran yn sgil anaf cyfergyd i'r gôl-geidwad, Alireza Beiranvand, yn erbyn Lloegr, gyda'r chwaraewyr ymosodol Sardar Azmoun a Mehdi Taremi hefyd yn cychwyn.
👨🏫📚 “If I was one of the teachers, I would let them all watch the game & I hope they do!”
— FA WALES (@FAWales) November 24, 2022
You heard the Capten 👀
Make sure to share your activities with #CymruFootballFriday #ArBenYByd | #TogetherStronger pic.twitter.com/DBbQhSBMTO
Bydd y gêm yn dechrau am 10:00 yng Nghymru, gan olygu fod disgyblion yn yr ysgol, a dywedodd capten Cymru, Gareth Bale, mewn cynhaddledd i'r wasg ddydd Iau y byddai'n "gadael i bob un disgybl wylio’r gêm pe byddai'n athro, a gobeithio y byddan nhw!
"Mae'n gyfnod hanesyddol yng Nghymru gan ein bod ni yng Nghwpan y Byd."
Mae gan Rob Page opsiynau ymosodol i'w dewis ohonynt, o Dan James i Harry Wilson i Brennan Johnson, ac er eu heriau personol oddi ar y cae, bydd Connor Roberts a Neco Williams yn parhau yn hanfodol i Gymru ar yr asgell dde a chwith.
Brilliant morning pic.twitter.com/PQQTmlx3G6
— Fan Embassy Wales (@WeAreFSACymru) November 25, 2022
Er y cyffro, mae sawl cefnogwr Cymru wedi bod yn cael trafferthion yn cyrraedd Qatar ddydd Gwener gyda "channoedd o gefnogwyr Cymru methu cael eu cerdyn Hayya wedi ei awdurdodi" yn ôl un cefnogwr gyda chefnogwr arall yn dweud fod "llawer wedi gadael gan eu bod nhw wedi cael eu troi i ffwrdd."
Mae Cymru un safle yn uwch na Iran yn rhestr detholion y byd FIFA, a dyma fydd yr ail gêm yn unig i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd.
Cymru oedd yr enilydd y tro diwethaf, gan ennill o 1-0 mewn gêm gyfeillgar 44 mlynedd yn ôl, a bydd tîm Rob Page yn gobeithio am fuddugoliaeth arall ddydd Gwener.
Dywedodd cyn-chwaraewr Cymru, Iwan Roberts, y byddai Iran yn "wyliadwrus iawn o Kieffer Moore ac ychydig yn ofnus o'r anhysbys.
"Byddan nhw wedi edrych ar ei effaith ac yn wyliadwrus iawn. Byddan nhw'n edrych ar y goliau mae wedi eu sgorio yn ddiweddar a dylen nhw fod yn wyliadwrus iawn."
Bydd Cymru v Iran ar gael i'w wylio yn fyw ar S4C o 09:15 ddydd Gwener, gyda'r gic gyntaf am 10:00.