'Byddai hyblygrwydd dynol yn fuddiol' yn Qatar medd Ffred Ffransis
'Byddai hyblygrwydd dynol yn fuddiol' yn Qatar medd Ffred Ffransis
Byddai "ychydig bach o hyblygrwydd dynol wedi bod yn fuddiol", medd un a gafodd drafferthion ar ôl gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar nos Lun.
Roedd Ffred Ffransis yn un o'r miloedd o gefnogwyr Cymru a oedd yn gwylio'r gêm yn erbyn yr UDA yn Stadiwm Ahmad Bin Ali, ond fe gafodd drafferthion yn gadael y gêm.
Nid oedd modd i Mr Ffransis hedfan yn ôl i Dubai yn dilyn y gêm gan ei fod dair munud yn hwyr yn cofrestru wrth gyrraedd y maes awyr.
Roedd o gwmpas 40,000 o bobl yn gadael yr un pryd er mwyn mynd ar y metro o'r stadiwm ac roedd hyn yn golygu fod Ffred yn hwyr yn cyrraedd y maes awyr.
O ganlyniad, roedd yn rhaid iddo aros yn Qatar am bron i ddeuddeg awr yn ychwanegol.
"Ar ddiwedd y gêm, roedd pawb yn cael eu trin fel ryw haid o ddefaid neu wartheg a'u gyrru draw tuag at yr orsaf metro ac i fyny'r grisie, gorfod stopio pan o'dd 'na wasgfa, pobl yn syrthio lawr ar ben ei gilydd," meddai.
Roedd yna "tua hanner cant o Gymry" eraill a oedd wedi profi'r un trafferthion, meddai, ac o'r herwydd wedi colli eu hediad nhw hefyd.
Ychwanegodd Mr Ffransis fod yr "unigolion yn hynod o helpgar ond unwaith bo' chi'n dod at y cwmnïe, ma' 'na agwedd corfforaethol, cadw at y rheole, a fyse chi'n meddwl bydde 'chydig bach o hyblygrwydd dynol wedi bod yn wyneb y sefyllfa gydag anhrefn llwyr, ond na, cadw at y rheole".
Roedd hi hefyd yn sefyllfa bryderus i Ffred gan mai maint cyfyngedig o feddyginiaeth ar gyfer ei galon oedd ganddo, ac roedd hyn eisoes wedi achos cyfyng gyngor iddo.
"Mae o'n broblem balansio dau risg oherwydd ma' hefyd rheole llym iawn fan hyn o ran dod â meddyginiaetha' mewn a dim ond faint o'dd isio ar gyfer eich arhosiad chi felly nes i ddim ond dod â digon ar gyfer ryw ddiwrnod a hanner i mewn efo fi a gadael y gweddill yn Dubai rhag ofn bo' fi'n colli'r cwbl," meddai.
"Yn diwedd, oedd gen i ddigon ar gyfer y 24 awr, nes i lwyddo i hedfan allan 10 munud cyn diwedd y 24 awr, ond os fysa fo wedi bod yn ddiwrnod ychwanegol, byswn i wedi bod heb fy meddyginiaethe ac hefyd wedi cael fy nirwyo am fynd heibio fy nghyfnod Visa."
Er hyn, pwysleisiodd Mr Ffransis mai dyma oedd y gêm gyntaf, ac eithrio'r gêm agoriadol, i gael ei chynnal yn y nos, ac mae'n gobeithio y bydd gwersi wedi eu dysgu.
"Mae'n rhaid cofio, heblaw am y gêm agoriadol oedd yn sefyllfa wahanol, gêm Cymru oedd y gêm hwyr gynta' yn y gystadleuaeth a felly gobeithio y byddan nhw wedi dysgu erbyn hyn," ychwanegodd.
Bydd Mr Ffransis yn hedfan yn ôl i Qatar ddydd Gwener er mwyn cefnogi Cymru yn eu hail gêm yng Nghwpan y Byd yn erbyn Iran.