Dyn fu farw mewn ymosodiad bwa croes 'wedi rhoi £200,000 i dwyllwr'

Mae llys wedi clywed sut y gwnaeth dyn fu farw mewn ymosodiad bwa croes ar Ynys Môn roi £200,000 i ddyn yr oedd yn ymddiried ynddo cyn iddo farw.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Gerald Corrigan a'i bartner Marie Bailey wedi rhoi swm sylweddol o arian i Richard Wyn Lewis. Roedd y ddau yn credu fod yr arian ar gyfer datblygu eiddo, prynu tir a phrynu ceffylau rhwng 2015 a 2019.
Mae Mr Lewis wedi ei gyhuddo o 11 cyhuddiad o dwyll yn erbyn nifer o unigolion gan gynnwys Mr Corrigan a Ms Bailey. Mae hefyd yn gwadu ceisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder ac mae ei gymar, Siwan McLean yn gwadu cyhuddiad o wyngalchu arian.
Nid oes gan yr achos unrhyw gysylltiad gyda llofruddiaeth Gerald Corrigan.
Mae disgwyl i'r achos bara am bedair wythnos.
Darllenwch ragor yma.