
Honiadau newydd o gamymddwyn o fewn Heddlu Gwent

Mae negeseuon newydd wedi cael eu datgelu sydd yn dangos rhagor o honiadau o gamymddwyn o fewn Heddlu Gwent.
Mae'r negeseuon a gyhoeddwyd gan The Sunday Times yn adrodd bod swyddogion wedi cyfnewid lluniau o bêl-droedwraig noeth a'u bod wedi trafod ‘sex pests' yn yr heddlu.
Daw hyn wythnosau ar ôl i’r papur newydd ddatgelu negeseuon eraill gan swyddogion o Heddlu Gwent oedd yn cynnwys sylwadau hiliol, rhywiaethol a negeseuon oedd yn dangos casineb at fenywod.
Un o gyn-aelodau'r llu fu farw o ganlyniad i hunanladdiad ym mis Ionawr 2020 oedd yn berchen ar y ffôn oedd yn cynnwys y negeseuon. Fe gafodd y negeseuon ar ffôn Ricky Jones eu rhannu gyda The Sunday Times gan ei ferch.
Yn ôl y papur, roedd natur y negeseuon oedd yn cael eu danfon gan swyddogion ar sgyrsiau grŵp yn “hiliol, homoffobig a misogynistaidd.”

Erbyn hyn, mae mwy o negeseuon gan gyn-swyddogion Heddlu Gwent wedi cael eu datgelu, gan gynnwys dau gyn-swyddog yn rhannu lluniau noeth o’r bêl-droedwraig Americanaidd, Hope Solo.
Mae’r papur newydd hefyd wedi datgelu neges gan swyddog yn trafod Heddlu Gwent: “Pan ‘dych chi’n edrych ar y ‘sex pests’, ‘drink drivers’ a ‘wife beaters’ yn eistedd yn gyfforddus lan yna, dydi o ddim yn iawn.”
Roedd negeseuon hefyd yn dangos cyn-wyddogion a swyddogion presennol yn cellwair am Jimmy Savile.
Fe wnaeth Prif Gwnstabl y llu, Pam Kelly ddisgrifio’r negeseuon fel rhai “erchyll” nad oedd yn gynrychioliadol o’r llu.
Mae Comisiynydd Heddlu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi dweud wrth ITV Cymru Wales yn flaenorol, ei fod o wedi cynnig cymorth i Brif Gwnstabl Kelly wrth i’r ymchwiliad i’r honiadau barhau.
Dywedodd llefarydd o’r Swyddfa Gartref wrth The Sunday Times: “Mae’n rhaid i luoedd heddlu ddod ag aelodau staff a swyddogion sydd ddim yn cyrraedd safonau ymddygiad derbyniol i’r fei er mwyn adfer ffydd y cyhoedd, sydd wedi cael ei ddifetha gan ddigwyddiadau adnabyddus diweddar.”
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: “Ni fyddai’n briodol darparu unrhyw fanylion pellach am yr ymchwiliad sydd yn cael ei arwain gan heddlu Wiltshire. Fodd bynnag, bydd yn cynnwys yr holl ddeunydd o’r dyfeisiau sydd yn eu meddiant ar hyn o bryd.”