Plismyn yn ‘teimlo’n sâl’ ar ôl ymosodiad gan gŵn ar braidd o ddefaid

Plismyn yn ‘teimlo’n sâl’ ar ôl ymosodiad gan gŵn ar braidd o ddefaid
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i ymosodiad “ffiaidd” gan ddau gi ar braidd o ddefaid yn y gogledd ddwyrain.
Fe wnaeth Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru gyhoeddi fideo ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Llun yn disgrifio’r digwyddiad ym Mwcle, Sir y Fflint.
Dywedodd yr heddlu fod y digwyddiad yn un o “ddinistr llwyr”.
Bu farw o leiaf saith dafad ac fe gafodd 30 o ddefaid eraill eu hanafu, ond mae swyddogion yn disgwyl y bydd nifer y marwolaethau yn mwy na threblu.
Yn y fideo, dywedodd swyddog yr heddlu: “Rydym wedi ein caledu i’r math yma o beth o fewn y Tîm Troseddau Cefn Gwlad, ond heddiw mae wedi ein gadael yn teimlo’n eithaf sâl â dweud y gwir, mae’n afiach.”
Fe wnaethon nhw ychwanegu bod yr ymosodiad, oedd o bosib gan sawl ci, wedi gadael y ffermwr a’i anifeiliaid mewn trallod.
Yn dilyn apêl ychwanegol am wybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd, roedd diweddariad gan swyddogion yn dweud eu bod wedi derbyn “gwybodaeth ardderchog” sydd wedi arwain at “ddatblygiadau positif iawn.”
❗ DIWEDDARIAD | Mae dau gi a oedd o dan amheuaeth o fod yn gysylltiedig ag ymosodiad da byw a laddodd saith o ddefaid ac a anafodd 16 arall yn ddiweddar, wedi'u casglu.
— NWP Rural Crime Team /Tîm Troseddau Cefn Gwlad HGC (@NWPRuralCrime) November 22, 2022
Mwy yma ➡️ https://t.co/aCdbWWWFwC pic.twitter.com/ZFsvidxJ67
Bellach mae dau gi sydd wedi eu hamau o fod yn gyfrifol am yr ymosodiadau yn cael eu cadw mewn lleoliad diogel gan swyddogion er mwyn atal unrhyw ymosodiadau pellach.
Nid oes disgwyl i'r 16 dafad a anafwyd oroesi, tra bod y ffermwr wedi hysbysu'r heddlu fod 11 o famogiaid mynydd Cymreig o'r un praidd ar goll yn dilyn y digwyddiad.
Mae'r naw o ddefaid na chafodd eu hanafu wedi dychwelyd i'r cae.
Details of a livestock attack at Buckley, Flintshire 21/11/22
— NWP Rural Crime Team /Tîm Troseddau Cefn Gwlad HGC (@NWPRuralCrime) November 21, 2022
Manylion achos o boeni defaid , Bwcle , Sir Fflint 21/11/22 pic.twitter.com/Hx5quTIC3J
Dywedodd y Rhingyll Peter Evans o'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad: "Mae ymosodiadau ar dda byw yn dorcalonnus iawn nid yn unig i'r anifeiliaid, ond i'w ceidwaid hefyd. Mae'r costau hefyd, yn ariannol ac yn emosiynol i'r bobl hynny sy'n berchen ar neu'n dod o hyd i anifeiliaid wedi marw neu wedi anafu, yn gwbl annerbyniol.
"Yn anffodus, nid yw'r adroddiadau am ddefaid a da byw eraill yn cael eu hymosod arnynt yn anghyffredin, gydag anifeiliaid yn dioddef creulondeb ac yn aml yn cael eu lladd. Gellir osgoi hyn yn llwyr.
"Mae bod yn berchennog cyfrifol ar gŵn yn allweddol wrth ymdrin â'r digwyddiadau ofnadwy hyn. Mae mor bwysig sicrhau fod anifeiliaid anwes o dan reolaeth bob amser. Os ydynt yn cael eu gadael gartref ar eu pen eu hunain, bod y tŷ neu'r ardd yn ddiogel.
“Rwyf yn apelio ar unrhyw un sy'n gweld ci heb dennyn mewn mannau o'r fath i'n hysbysu ni ar unwaith.
"Buaswn hefyd yn annog ceidwaid da byw i'n hysbysu ni am bob digwyddiad cynt gynted â phosibl."
Daw hyn ychydig ddyddiau ar ôl i oen gael ei frathu a’i ladd mewn ymosiad gan gig ar y Gogarth yn Llandudno.
Fe wnaeth y bugail Dan James bostio fideo ar Twitter yn disgrifio yr hyn yr oedd yn ei gredu oedd wedi digwydd i’w braidd ifanc.
Mae’r fideo yn cynnwys rhai delweddau graffig o anifeiliaid meirw yn gorwedd yn y cae.
Yn y fideo, dywedodd Mr James: “Mae gennyf i ddafad farw yma. Jyst byddwch yn ymwybodol bod hi ddim yn neis iawn. Y rheswm dwi eisiau dangos hyn yw achos dwi’n meddwl ei fod yn bwysig.
“Felly, fel gallwch chi weld ar ei boch, mae ganddi ddau farc dannedd lle mae hi wedi cael ei brathu gan gi - wnaeth ei lladd yn syml - mae ganddi farciau ar gefn ei choes hefyd.
“Dyma oen bridio newydd, hyfryd. Dyw hi ddim ond wedi bod heb ei mam ers mis, ond mae hyn yn digwydd yn llawer yn rhy aml ac mae angen iddo stopio.
“Mae hyn jyst yn wastraff.”
Fe wnaeth Mr James ychwanegu ei fod eisiau unrhyw un sydd gydag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda fo.