Newyddion S4C

Bil yn galw am ddatganoli Gwyliau'r Banc i Gymru

23/11/2022
Baner Cymru

Fe fydd Bil yn cael ei gyflwyno yn Nhŷ’r Arglwyddi ddydd Mercher a allai weld cyfrifoldeb dros Wyliau'r Banc yn cael ei ddatganoli i Gymru.

Pe bai'r Bil yn cael ei gefnogi gan y mwyafrif o aelodau Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, byddai'n galluogi Llywodraeth Cymru i benderfynu os yw am wneud Dydd Gŵyl Dewi yn Ŵyl y Banc.

Y Farwnes Christine Humphreys o'r Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi cyflwyno'r Bil, gyda'r gobaith y bydd gan Lywodraeth Cymru'r un grymoedd â'r Alban pan mae'n dod i greu Gwyliau'r Banc.

Ar hyn o bryd, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am greu Gwyliau'r Banc, ac maen nhw eisoes wedi gwneud Dydd Sant Padrig yn Ŵyl y Banc yng Ngogledd Iwerddon ers sawl blwyddyn erbyn hyn.

Yn y gorffennol, dywedodd cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei fod am weld Dydd Gŵyl Dewi yn Ŵyl y Banc, ond mae'r Ysgrifennydd presennol, David TC Davies, wedi dweud na fyddai'n cefnogi'r newid.

Dywedodd y Farwnes Humphreys: "Mae hi'n gwbl anghyfiawn nad yw pobl Cymru yn gallu dathlu diwylliant, treftadaeth a statws ein gwlad, yn yr un modd â phobl Yr Alban a Gogledd Iwerddon."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: "Mae'r patrwm presennol o wyliau cyhoeddus a'r banc wedi ei sefydlu ers tro a tra gallai gŵyl banc ychwanegol fuddio rhai cymunedau a sectorau, mae cost gŵyl banc ychwanegol i'r economi yn sylweddol.

"Nid oes gan Lywodraeth y DU gynlluniau ar hyn o bryd i newid y trefniadau arferol ar gyfer gwyliau'r banc yng Nghymru.  Rydym yn parhau i fod yn driw i weithio ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod sefydliadau'r DU yn gweithio ar y cyd fel un Deyrnas Unedig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.