Newyddion S4C

Rhybudd melyn am wynt a glaw i'r rhan helaeth o'r wlad

Tywydd garw

Mae rhybudd melyn am wynt a glaw wedi ei gyhoeddi ar gyfer dros hanner siroedd Cymru yn ystod oriau man bore dydd Iau.

Bydd y rhybudd yn dod i rym am 03:00 ac yn parhau tan 08:00.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud y gallai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gael eu heffeithio ac yn rhybuddio am oedi posib i deithwyr.

Mae hi hefyd yn bosib y bydd rhai cartrefi yn colli trydan am gyfnodau, gyda rhai ardaloedd yn wynebu "glaw trwm" a "gwyntoedd cryfion".

Mae'r rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd yn berthnasol i'r siroedd canlynol:

  • Abertawe
  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Merthyr Tudful
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Benfro
  • Sir Fynwy
  • Sir Gaerfyrddin
  • Torfaen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.