Newyddion S4C

CPD Wrecsam nôl ar frig y Gynghrair Genedlaethol

19/11/2022
CPD Wrexham

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam ar frig y Gynghrair Genedlaethol yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Aldershot ddydd Sadwrn.

Enillodd tîm Phil Parkinson o 2-0 gan fanteisio ar gêm gyfartal Notts County, a oedd ar frig y tabl yn flaenorol.

Paul Mullin a James Jones oedd sgorwyr Wrecsam.

Roedd Wrecsam wedi bod ar y brig am gyfnod ddechrau’r mis cyn llithro nôl i’r ail safle.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.