Newyddion S4C

Cais i gefnogwyr Cymru anfon deunydd i ddarlledwr Iranaidd o Gwpan y Byd

18/11/2022

Cais i gefnogwyr Cymru anfon deunydd i ddarlledwr Iranaidd o Gwpan y Byd

Mae newyddiadurwyr sydd yn gweithio i sianel newyddion ‘Iran international’ yn gofyn i gefnogwyr Cymru ac Iran anfon cynnwys o Qatar i’r sianel yn ystod cystadleuaeth Cwpan y Byd.

Daw’r cais wedi i fisas y newyddiadurwyr gael eu diddymu wrth iddynt geisio cael mynediad i Qatar i ohebu o’r wlad yn ystod y gystadleuaeth.

Yn ôl y newyddiadurwr Iranaidd, Reza Mohaddes, sydd wedi ei leoli yn Llundain, Llywodraeth Iran sydd wedi annog Qatar i beidio awdurdodi fisas i newyddiadurwyr ‘Iran international’.

“’Da ni yn credu bod Llywodraeth Iran wedi gofyn i Qatar wrthod ni mewn i’r wlad oherwydd ein bod ni yn lais i bobl Iran,” meddai Mr Mohaddes.

Mae Qatar wedi gwadu yn y gorffennol unrhyw honiadau o gamweinyddu mewn cysylltiad â Chwpan y Byd. 

Image
S4C
Mae Reza Mohaddes yn newyddiadurwr i ‘Iran international’

Mae’r sianel newyddion wedi bod yn adrodd am y protestiadau sydd wedi eu cynnal ar draws Iran yn dilyn marwolaeth Mahsa Amini.

“Mae Llywodraeth Iran yn poeni y bydd gan newyddiadurwyr Iran newyddiaduriaeth rydd yno. Achos os byddwn ni yna, ni fydda llais Iran a byddwn yn adlewyrchu llais y cefnogwyr."

Mae tîm pêl-droed Iran yn wynebu Cymru ar 25 Tachwedd ac roedd Mr Mohaddes yn gobeithio gohebu yn ystod y gêm.

Ychwanegodd:“’Da ni wedi bod yn paratoi ers misoedd i fod yno yn ystod un o gystadlaethau chwaraeon mwyaf y byd. Roedd 10 o honnom ni wedi bwriadu mynd.

“Mae rhai o fy nghydweithwyr wedi bod yng Nghaerdydd yn cyfweld rheolwr tîm Cymru ac roedden ni wedi bwriadu bod yn Doha yn adrodd am daith y timau gan gynnwys Cymru.”

Er siom y newyddiadurwyr maen nhw’n benderfynol o rannu taith Cwpan y Byd Iran gyda’u cenedl.

“Byddwn ni yn Llundain yn gohebu a bydd rhai newyddiadurwyr yng Nghaerdydd yn ystod gêm Iran a Chymru er mwyn adrodd y cyffro.

“Dan ni isio cefnogwyr Iran a Chymru sydd yn Qatar ar gyfer y gêm i ddanfon fideos i ni.”

“Eu camerâu nhw yw ein camerâu ni nawr. Bydd y fideos yn cael eu defnyddio i adlewyrchu llais yn Iran drwy ryddid barn a rhyddid y wasg."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.