Rhybudd melyn am law i rannau o Gymru
17/11/2022
Mae rhybudd melyn am law mewn grym i rannau o Gymru ddydd Iau.
Mae perygl y gallai cartrefi a busnesau brofi llifogydd yn sgil glaw trwm ac y gallai ansawdd y ffyrdd gael eu heffeithio.
Fe allai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus hefyd gael eu canslo mewn mannau sydd wedi eu heffeithio gan lifogydd.
Mae pedair sir wedi eu heffeithio gan y rhybudd, sef Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Bydd y rhybudd yn dod i ben am hanner nos.