Cofnodi'r tymheredd uchaf erioed am Sul y Cofio yng Nghymru
13/11/2022
Mae'r tymheredd uchaf erioed wedi ei gofnodi yng Nghymru am Sul y Cofio ac am 13 Tachwedd.
Cofnodwyd tymheredd o 21 gradd ym Mhorthmadog dydd Sul ac 19.5 gradd yng Ngogerddan.
Roedd y tymereddau yma yn cymharu gyda rhai ardaloedd yn ne Sbaen.
11 gradd yw’r tymheredd arferol ym Mis Tachwedd
Dywedodd cyflwynydd tywydd S4C Megan Williams fod y tymheredd wedi bod yn codi “awr wrth awr” yn ystod y dydd.