Y Canghellor: Cynnydd mewn trethi i bawb

Mae’r Canghellor Jeremy Hunt wedi cadarnhau fe fydd cynnydd mewn trethi i bawb yn ei ddatganiad ddydd Iau.
Mewn cyfres o gyfweliadau fore dydd Sul, dywedodd Mr Hunt y bydd cymorth llywodraeth y DU ar gyfer biliau ynni yn cael ei dargedi at y rhai mwyaf bregus ar ôl mis Ebrill.
Dywedodd Mr Hunt: “Byddwn ni gyd yn talu ychydig yn fwy o dreth.”
Dywedodd bydd ei gynlluniau yn helpu’r DU ddod allan o ddirwasgiad cyn gynted â phosib.
Ychwanegodd y bydd angen toriadau gwario ar adrannau’r llywodraeth ac awgrymodd na fydd cyllid ychwanegol ar gael i’r Gwasanaeth Iechyd.
Darllenwch fwy yma.