Yr Ŵyl Gerdd Dant yn dathlu ei phen-blwydd yn 75 oed
Yr Ŵyl Gerdd Dant yn dathlu ei phen-blwydd yn 75 oed
Bydd yr Ŵyl Gerdd Dant yn dathlu ei phen-blwydd yn 75 oed pan y bydd yn dychwelyd ddydd Sadwrn.
Dyma'r tro cyntaf i'r ŵyl gael ei chynnal ers y pandemig, a bydd yn cael ei chynnal yn Llanfyllin ym Mhowys.
Mae'r Ŵyl Gerdd Dant wedi ei sefydlu ers 1947 sydd yn golygu ei bod hi'n dathlu ei phen-blwydd yn 75 oed eleni.
Dywedodd John Eifion Jones, trefnydd yr Ŵyl Gerdd Dant ac un o swyddogion gweinyddol y Gymdeithas Gerdd Dant fod yr ŵyl wedi datblygu yn sylweddol dros y blynyddoedd a'i bod bellach yn "ddathliad o'n diwyllianna' cenhenid Cymreig ni fel Cymry.
"Mae o'n rhan o'n etifeddiaeth ni, mae o'n rhan o pwy ydan ni. Mae o'n ffordd o allu adnabod geiria' a gwerthfawrogi cerddi ein beirdd, mae o'n rhoi llwyfan arall i hynny hefyd."
Dywedodd Mr Jones fod yna nifer fawr o bobl ifanc wedi cofrestru i gystadlu ddydd Sadwrn, ac mae cerdd dant wedi esblygu ar draws y blynyddoedd, gan gynnwys y stomp cerdd dant yn yr Eisteddfodau.
"Yn ara' deg mae o yn digwydd, ma' angen cadw golwg ar y gwreiddia' ag o lle mae o wedi dod a does dim isio anghofio am hynny ond ma' 'na wastad le i fedru gwthio ambell i ffin yma ac acw," meddai.
Mae'r pandemig wedi cael effaith ar niferoedd mewn gwyliau cerdd dant ac mae disgyblion yr ardal leol wedi cael dysgu mwy am gerdd dant a'i diwylliant yng Nghymru cyn cynnal yr ŵyl.
Dywedodd John Eifion Jones fod yna "do ifanc wedi newydd wedi cael gwybodaeth newydd sbon am eu hetifeddiaeth nhw."
Ychwanegodd fod cefnogaeth pobl Maldwyn wedi eu galluogi nhw i "gofleidio'r ŵyl a pherchnogi hi a ma' nhw wedi rhoi eu stamp unigryw eu hunain ar yr ŵyl."