Robert Page: 'Dwi'n falch iawn o'r Gymraeg'

Robert Page: 'Dwi'n falch iawn o'r Gymraeg'
Mae rheolwr pêl-droed Cymru wedi dweud ei fod yn "falch iawn" o'r Gymraeg.
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Robert Page bod clywed y chwaraewyr yn ei siarad yn ei "lenwi â balchder".
Cafodd y garfan fydd yn mynd i Gwpan y Byd yn Qatar ei chyhoeddi ym Mhendyrus, pentref genedigol Robert Page, nos Fercher.
"Pwy a ŵyr" oedd ymateb Page pan gafodd ei ofyn i wneud cyfweliad byr yn y Gymraeg cyn diwedd y bencampwriaeth.
"Dwi'n falch iawn o'r iaith a chi'n gwybod, tyfais i fyny ym Mhendyrus felly roedd rhaid i chi ei gymryd, roedd yn orfodol am y ddwy flynedd gyntaf, ac yna roeddwn i'n gwybod fy mod yn gadael yn 16 felly nes i wedyn peidio â'i gymryd fel iaith," meddai.
"Ond dwi'n gwybod y byddai cyn-reolwyr yn y gorffennol yn mynd i'r wasg ac wedi ei dysgu.
"I fi, yn symud i Loegr yn 16, roeddwn i'n gwybod ei bod hi'n iaith y bydden ei hangen y tu allan i Gymru, ond dyw hynny ddim yn meddwl nad wyf yn falch o'n hiaith frodorol a pan mae'r bois yn ei siarad, mae'n fy llenwi â balchder."
Bydd Cymru'n chwarae yn eu Cwpan y Byd cyntaf ers 1958 ar 21 Tachwedd mewn gêm yn erbyn yr UDA.