Newyddion S4C

Zelensky

Arlywydd Zelensky: 'Nid yw'r gelyn yn dod ag anrhegion'

NS4C 10/11/2022

Mae Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky wedi rhybuddio pobl ei wlad rhag dathlu gormod yn dilyn y newyddion fod lluoedd Rwsia yn bwriadu gadael dinas Kherson yn ne'r wlad.

Yn ystod ei ddatganiad nosweithiol ar deledu'r wlad, dywedodd yr Arlywydd bod angen i bobl "atal eu hemosiynau" yn dilyn y datblygiad diweddaraf.

Dywedodd prif gadfridog Rwsia yn Wcráin, Sergei Surovikin, ddydd Mercher nad oedd modd cynnal milwyr yn Kherson rhagor. 

Dyma un o'r camau milwrol mwyaf sylweddol gan Rwsia ers dechrau'r gwrthdaro ym mis Chwefror. 

Cafodd Kherson ei chipio'n gynnar ar ddechrau'r rhyfel a hyd yn hyn hon yw'r unig brif ddinas ranbarthol i ddod o dan reolaeth Rwsia.

Yn ystod ei anerchiad, dywedodd Volodymyr Zelensky nad oes un gelyn yn cynnig arwyddion o "ewyllys da".

"Mae llawer o lawenydd ar y cyfryngau heddiw, ac mae'n amlwg pam. Ond rhaid atal ein hemosiynau bob amser yn ystod rhyfel.

"Mae angen i chi ddeall: nid oes neb yn mynd i ffwrdd os nad ydynt yn teimlo'r grym. Nid yw'r gelyn yn dod ag anrhegion i ni, nid yw'n gwneud arwyddion o ewyllys da. Rydyn ni'n ymladd ein ffordd i'r brig.

"Felly, rydym yn symud yn ofalus iawn, heb emosiynau, heb risg ddiangen, er budd rhyddhau ein holl dir ac fel bod y colledion mor fach â phosibl. Dyma sut y byddwn yn sicrhau rhyddhad Kherson, Kakhovka, Donetsk, a dinasoedd eraill."

Yn y cyfamser mae Arlywydd yr UDA Joe Biden wedi dweud fod camau diweddaraf Rwsia wrth adael Kherson yn arwydd o'r trafferthion mae ei lluoedd yn ei ddioddef ar lawr gwlad yn y rhanbarth.

Dywedodd ei fod wedi disgwyl y datblygiad yn Kherson ers peth amser, wrth i'r ddwy ochr baratoi ar gyfer misoedd y gaeaf.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.