Newyddion S4C

Nathan Jones S'oton

Penodi Nathan Jones yn hyfforddwr newydd ar Southampton

NS4C 09/11/2022

Mae Nathan Jones wedi cael ei benodi fel hyfforddwr newydd Southampton.

Bydd y Cymro o Flaenrhondda yn olynu Ralph Hasenhuttl wedi iddo gael ei ddiswyddo yn dilyn cyfres o ganlyniadau gwael.

Mae Jones yn gadael Luton Town gyda'r clwb yn nawfed yn y Bencampwriaeth.

Dyma fydd y trydydd clwb i Jones ei hyfforddi, wedi cyfnod fel hyfforddwr dros dro yn Brighton cyn ymuno gyda Luton. Gadawodd Luton wedyn i hyfforddi Stoke, ond fe ddaeth yn ôl i Luton ar ôl llai na 18 mis.

Dyma'r tro cyntaf i Jones gymryd yr awenau gyda chlwb yn yr Uwch Gynghrair, sydd yn golygu y bydd wedi hyfforddi ym mhedair cynghrair Lloegr ar ôl iddo ddyrchafu Luton o Adran Dau i'r Bencampwriaeth.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.