Dros 230,000 o blant yn Jambori Cwpan y Byd yr Urdd
Dros 230,000 o blant yn Jambori Cwpan y Byd yr Urdd
Roedd dros 200,000 o blant ar draws Cymru yn dod at ei gilydd ar gyfer Jambori Cwpan y Byd Urdd Gobaith Cymru ddydd Iau.
Mae 230,372 o blant o 1,071 o ysgolion ar hyd Cymru wedi cofrestru ar gyfer y Jambori, sydd yn rhoi cyfle i blant ddangos eu cefnogaeth i’r tîm cenedlaethol ac ymuno yn nathliadau’r gystadleuaeth trwy gyd-ganu.
Mae’r Jambori yn cael ei gynhyrchu gan yr Urdd mewn partneriaeth â Stwnsh Sadwrn, BBC Cymru, S4C a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac mae’n rhan o ymgyrch Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru ar gyfer y tîm cenedlaethol.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn fyw ar Zoom o 10:30 ymlaen.
Roedd plant yn canu rhai o hen ffefrynnau Cymru yn ogystal â chaneuon newydd Cwpan y Byd. Yn ystod y digwyddiad roedd negeseuon fideo gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a rhai o chwaraewyr tîm pêl-droed Cymru i ddiolch i’r plant am eu cefnogaeth.
Ar ddiwedd y Jambori roedd ymddangosiad arbennig gan Dafydd Iwan wrth i blant o bob cwr o’r wlad ymuno â’r canwr o fri i ganu anthem Cwpan y Byd Cymru ‘Yma o Hyd’.
Dros 230,000 o blant yn cydganu Yma o Hyd gyda @dafyddiwan. ❤
— Urdd Gobaith Cymru (@Urdd) November 10, 2022
🏴 Thousands upon thousands of children singing as one from across Wales and beyond. #Jambori | #TîmCymru22 | #YmaOHyd pic.twitter.com/ihGjKi8bqJ
Yn ogystal â pharatoi eu lleisiau canu, mae'r Urdd wedi gofyn i ysgolion ganiatáu i bawb wisgo coch ddydd Iau mewn ymgais i droi Cymru'n goch i gefnogi’r tîm cenedlaethol yng Nghwpan y Byd.
Mae Prif Weithredwr yr Urdd, Sian Lewis yn dweud ei fod yn hollbwysig bod bob plentyn yn cael y cyfle i ymuno gyda'r Jambori.
“Mae’r Urdd wedi cael ei syfrdanu gan ymateb cadarnhaol ysgolion cynradd ym mhob rhan o’r wlad i Jambori Cwpan y Byd. Roedden ni o hyd wedi meddwl cynnal Jambori canmlwyddiant yn yr hydref a pharhau â’r dathlu hyd ddiwedd blwyddyn y cant. Drwy anelu’n uchel a chefnogi’r tîm cenedlaethol, rydyn ni’n dod â 230,372 o blant o bob rhan o’r wlad at ei gilydd i roi’r hwb haeddiannol i dîm Cymru!
“Mae’n hollbwysig i’r Urdd bod pob plentyn yn cael cyfle i ymuno yn Jambori Cwpan y Byd. Roedd rhaid i’r Jambori fod yn groesawgar a hygyrch i bawb, dyna pam mae’r Urdd wedi darparu geiriau Saesneg yn ogystal â fersiynau ffonetig ar ein gwefan er mwyn i ddysgwyr a’r di-Gymraeg gael ymuno yn yr hwyl."