Newyddion S4C

Y DU i anfon pebyll ac offer tywydd oer i Wcráin 

09/11/2022
Milwyr Wcrain ar y ffin gyda Rwsia
Milwyr Wcrain ar y ffin gyda Rwsia

Bydd y Deyrnas Unedig yn anfon pebyll wedi’u gwresogi a chitiau cysgu tywydd oer eithafol i Wcráin i helpu lluoedd arfog y wlad i ymdopi dros y gaeaf.

Bydd 12,000 o gitiau yn cael eu darparu i luoedd arfog y wlad, ynghyd â 150 o’r pebyll.

Mae'r pecynnau'n cynnwys sach gysgu tywydd oer, bag bivvy a mat wedi rholio.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace bod yr eitemau ar gael yn ogystal â "chymorth angheuol".

Mae’r DU hefyd yn gobeithio dosbarthu 25,000 o becynnau dillad tywydd oer eithafol erbyn canol mis Rhagfyr, meddai Downing Street.

Mae pob pecyn yn cynnwys siaced wedi'i inswleiddio, trowsus ac esgidiau cynnes, menig a sanau.

Dywedodd Mr Wallace y byddai'r offer yn helpu'r Wcrainiaid i "weithredu'n effeithiol dros y misoedd nesaf".

Ychwanegodd: "Ochr yn ochr â'n rhaglen hyfforddi a darparu cymorth angheuol, mae'n dangos ein hymrwymiad i wneud yn siŵr bod y milwr Wcrainaidd arferol wedi'i hyfforddi'n dda, ac yn berchen ar yr adnoddau gorau ac yn cael y cyfle gorau posibl i ymladd dros eu dyfodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.