Yr actor Leslie Phillips wedi marw'n 98 oed
08/11/2022
Mae'r actor Leslie Phillips wedi marw'n 98 oed.
Dywedodd ei asiant Jonathan Lloyd fod yr actor wedi marw "yn dawel yn ei gwsg" ddydd Llun.
Fe ddaeth i enwogrwydd yn gyntaf yn ystod 50au'r ganrif ddiwethaf, gan ddod yn fwy enwog yn ddiweddarach am ei berfformiadau yn ffilmiau ‘Carry On’ a ‘Harry Potter’.
Fe dderbyniodd OBE yn 1998 a CBE yn 2008 am ei waith ar y llwyfan ac ym myd y ffilmiau.