Mam o Gaerffili yn codi arian ar gyfer brechlyn allai achub bywyd ei mab

Mae Mam o Gaerffili wedi dechrau ymgyrch i godi £200,000 i dalu am frechlyn Almaenaidd allai achub bywyd ei mab.
Cafodd Ethan Hamer, 14, o Gaerffili ddiagnosis o ganser carsinoma ym mis Awst eleni.
Mae'r math yma o ganser yn un ffyrnig tu hwnt ac yn ôl mam Ethan, Debbie Hamer, mae'n anghyffredin ymhlith plant.
Does dim triniaeth yn y DU, ond yn ôl rhieni Ethan, mae brechlyn o’r enw Autologous Tumour Cell ar gael mewn clinig yn yr Almaen.
Dywedodd Debbie: “Mae athro yn y clinig Almaenaidd wedi dweud bod brechlyn canser personol ar gael. Mae'r brechlyn wedi'i greu yn benodol i Ethan."
“Nid yw’n addas i bawb. Maen nhw’n tynnu gwaed o Ethan, sydd yn cael ei ddanfon i labordy, lle mae brechlyn personol yn cael ei greu yn seiliedig ar rinweddau ei waed.
“Mae’n adnabod y celloedd canser ac yn lladd pob cell heb effeithio ar ei gelloedd da. Bydd o ar ddrip yn ddyddiol am bum wythnos hefyd.”
Mae Ethan yn gefnogwr brwd o bêl-droed Cymru a chyn ei salwch, fe fu ym mhob gêm adref dros gyfnod o naw mlynedd.
Yn ddiweddar, enillodd ras ddau cilometr Caerffili, ac ym mis Mehefin fe ddaeth yn bedwerydd ym Mhencampwriaeth 800m Cymru.
Wedi i'w rieni rannu ei stori, anfonodd capten tîm Cymru, Gareth Bale, fideo at Ethan i’w gefnogi.
Dywedodd: “Dw i wedi clywed dy fod yn cael amser caled. Roeddwn i eisiau anfon neges gyflym i ddweud, dal ati i fod yn gryf a brwydro, ry’n ni gyd tu ôl i ti, gobeithio gwnei di wella’n fuan.”
Mae dros £70,000 wedi cael ei godi ar gyfer triniaeth Ethan hyd yn hyn ar dudalen GoFundMe. Mae ei fam a’i dad yn dweud bod y fath gefnogaeth, wedi ei synnu.
Ond maen nhw wedi dweud bod angen £200,000 arnyn nhw ar gyfer ôl-driniaeth yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.
Mae Debbie a’i gŵr wedi bod yn ceisio dod o hyn i ddigon o arian tra hefyd yn gofalu am eu plant eraill.
“Mae hi wedi bod yn anodd iawn i gadw bywyd normal teulu," meddai.
“Dydw i ddim wedi gallu gweithio. Bydd yn rhaid i fy ngŵr dreulio pum wythnos yn yr Almaen gydag Ethan. Mae hi’n anodd iawn”