
‘Mae’n brifo i’r byw’: Torcalon gwraig i weithiwr a fu farw yn Qatar

‘Mae’n brifo i’r byw’: Torcalon gwraig i weithiwr a fu farw yn Qatar
“Mae’n brifo’n fawr iawn. Petai fy ngŵr yn dal yn fyw, fe fyddai’n siarad gyda fi o Qatar, ond nawr mae e wedi mynd am byth. Mae’n brifo i’r byw."
Collodd Ranu Akhter o bentref Dobipator ym Mangladesh ei gŵr Muhammad Kaochar Khan yn 2017 pan roedd e'n 34 oed. Roedd yn gweithio fel plastrwr i gwmni adeiladu, yn helpu codi gwesty fel rhan o’r paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd.
$1,500 yw cyflog cyfartalog gweithiwr ym Mangladesh mewn blwyddyn.
Wrth siarad ar raglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd Ms Akhter:“Gadawodd Kaochar Bangladesh i fynd i Qatar er mwyn dianc rhag ei dlodi. Roedd rhaid iddo dalu £3,500 i fynd yno. Roedd rhaid i ni fenthyg yr arian drwy gael morgais ar ein tir.”
Ond lai na thair blynedd ar ôl cyrraedd Doha, bu farw Kaochar Khan.
Yn ôl tystysgrif farwolaeth Muhammad, neu Kaochar fel oedd yn cael ei adnabod gan ei deulu, bu farw drwy fethiant anadlu o ganlyniad i achosion naturiol.

“‘Wnes i siarad gyda fy ngŵr y noson yna, ond wnaeth e ddim sôn ei fod yn sâl neu’n teimlo’n wael. Ond naw o’r gloch y bore wedyn, ces i alwad yn dweud ei fod wedi marw ar ôl cael strôc.”
Mae Ranu, sy’n byw 75 milltir o brifddinas Bangladesh, Dakha, bellach yn gofalu am ei mab 9 oed ar ei phen ei hun. Wedi marwolaeth Kaochar, fe gafodd y teulu daliad gan y cwmni adeiladu, oedd yn cyfateb i tua £400.
“Ry’n ni wedi derbyn peth cymorth ariannol gan Lywodraeth Bangladesh, ond dim ceiniog gan Lywodraeth Qatar. Rydym wedi galw am iawndal achos fe wnaeth Kaochar farw yna. Os bydden nhw’n cydweithredu, efallai fyddwn i’n gallu ymdopi â bywyd, a gofalu am fy mab yn iawn.”
Yn ôl elusen Amnest Rhyngwladol, mae 90% o boblogaeth Qatar yn weithwyr o dramor, sef 2.1 miliwn o bobl.
Roedd Muhammad Nur Uddin Khan, 28, yn un o ffrindiau Kaochar yn Qatar. Fe dreuliodd chwe blynedd yn y wlad rhwng Ionawr 2016 a mis Mawrth 2022 yn gweithio ar godi tyrau uchel a meysydd parcio yn ardal Stadiwm Lusail.

“Roedd yr amodau gwaith a’r cyflog yn wael iawn. Mae rhaid i’r gweithwyr wneud gwaith caled iawn ond dydyn nhw ddim yn cael eu talu’n deg. Mae’r safon byw a safon y bwyd yn isel iawn.
“Mae yna risg uchel i bobl sy’n gweithio ar y stadiwm. Mae lot o waith peryglus ac roedd y pwysau gan y goruchwylwyr yno yn uchel iawn. Maen nhw’n gweithio pobl yn galed felly roedd nifer o ddamweiniau.
“Doedd amodau gwaith ddim yn dda yn Qatar oherwydd hyn. Mae gweithio yn y fath wres llethol yn anodd ac yn gwneud i bobl deimlo’n sâl."
Yn ôl adroddiad gan bapur newydd The Guardian, mae 6,500 o weithwyr tramor wedi marw yn Qatar ers i’r wlad ennill yr hawl i gynnal y gystadleuaeth yn 2010.
Yn 2017, newidodd Llywodraeth Qatar ei chyfreithiau i geisio gwella hawliau gweithwyr. Mae’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol wedi bod yn gweithio gyda’r llywodraeth i gyflanwi hyn.
Yn ôl Max Tuñón, Pennaeth y sefydliad: “Wrth wraidd y diwygiadau llafur mae'r system Kafala. O’r blaen, roedd gweithiwr yn cael ei glymu i'w gyflogwr, ond rydyn ni nawr wedi gweithio gyda'r llywodraeth i gael gwared ar elfennau mwyaf problematig y system.
“Nawr gall gweithwyr newid swyddi heb ganiatâd gan gyflogwyr. Mae hyn yn yn golygu bod gan weithwyr fwy o bŵer i fargeinio ar gyfer amodau gwaith ac amodau byw gwell, ac mae cyflogwyr yn cael eu cymell i wella’r amodau hynny."
Mewn ymateb i sylwadau teulu Kaochar, dywedodd Llywodraeth Qatar ei bod yn “ymchwilio i unrhyw farwolaeth ac yn talu iawndal os mae’n ymwneud â gwaith.”
Fe ddywedodd nad oedd “Kaochar yn gweithio ar safle yn ymwneud â Chwpan y Byd yn uniongyrchol, na phrosiect dan ofal y Goruchaf Bwyllgor, ond bod ei farwolaeth yn drychineb.
“Mae iechyd a diogelwch gweithwyr yn flaenoriaeth i Qatar. Mae Qatar wedi cymryd camau mawr dros y degawd diwethaf i warchod diogelwch, hawliau a lles pob gweithiwr yn ein gwlad."
Yn ôl y Goruchaf Bwyllgor, nid oes ganddo “record o Muhammad Nur Uddin Khan fel gweithiwr ar ei fas data”, ac ni wnaeth Llywodraeth Qatar ymateb i’w bwyntiau penodol.