Newyddion S4C

Nyrsys yn paratoi i gynnal streic yn dilyn pleidlais

06/11/2022

Nyrsys yn paratoi i gynnal streic yn dilyn pleidlais

Mae nyrsys ar draws y DU yn paratoi i fynd ar streic dros godiad cyflog. 

Mae disgwyl i’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) gyhoeddi canlyniad y bleidlais ddaeth i ben ar 2 Tachwedd yn y dyddiau nesaf.

Mae’r pleidleisiau yn dal i gael eu cyfrif ond yn ôl adroddiadau mae mwyafrif y nyrsys yn barod wedi pleidleisio dros streicio.

Daw’r bleidlais wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi codiad cyflog o £1,400 ar gyfer holl fandiau cyflog y Gwasanaeth Iechyd, sy’n cyfateb i 4%.

Mae’r undeb yn galw am godiad cyflog wedi’i ariannu’n llawn i staff nyrsio o 5% yn uwch na chwyddiant, sef 12% ar hyn o bryd.

Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dweud na fyddai streic yn effeithio ar wasanaethau gofal brys.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi derbyn argymhellion pwyllgor adolygu cyflogau yn llawn ac wedi bod yn glir, heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, mae yna gyfyngiadau ar ba mor bell y medrwn fynd i ateb y pryderon yma yng Nghymru.

"Rydym wedi galw ar weinidogion y DU i ddarparu cyllid ychwanegol angenrheidiol ar gyfer cynyddu cyflogau yn deg i weithwyr y sector gyhoeddus a gweithredu’n frys nawr er mwyn lleihau chwyddiant a darparu’r cymorth sydd angen ar bobl yn ystod y cyfnodau anodd yma."

 

Mae Leanne Lewis yn un o'r nyrsys sydd wedi pleidleisio o blaid streicio dros gyflog uwch ac amodau gwaith gwell.

Dywedodd: "Pan ddechreiais i nyrsio bydden ni byth wedi meddwl am streicio.

"Mae’r amodau mor wael a shwd gymaint o nyrsys yn gadael ac mae nhw bant o achos salwch. Mae’n rhaid neud rhywbeth. Mae lot o nyrsys yn becso ac yn mynd nôl o’r gwaith yn crio ac yn gadael oherwydd mae nhw methu byw gyda’r ffaith bod nhw’n methu cadw cleifion yn saff.

"Mae rhai ysbytai yn Lloegr wedi dechrau food banks i’r nyrsys. D’yw hwnna ddim yn iawn. Dyma beth ni’n trial ymladd drosto hefyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.