Newyddion S4C

RISHI SUNAK

Rishi Sunak yn teithio i gynhadledd newid hinsawdd COP27

Fe fydd y Prif Weinidog, Rishi Sunak, yn teithio i'r gynhadledd newid hinsawdd COP27 yn yr Aifft ddydd Sul. 

Daw hyn yn sgil tro pedol gan y Llywodraeth, wedi i Rif 10 ddweud yn wreiddiol ni fydd y prif weinidog yn mynychu'r gynhadledd. 

Dywedodd Mr Sunak yr oedd am fwriadu ffocysu ar faterion domestig, fel yr argyfwng costau byw, yn lle teithio i'r gynhadledd.  

Ond yn sgil beirniadaeth chwyrn gan y gwrthbleidiau ac ymgyrchwyr amgylcheddol, fe wnaeth y Prif Weinidog newid ei feddwl. 

Fe fydd yn ymuno a nifer o arweinwyr eraill o Ewrop i drafod yr argyfwng newid hinsawdd gan gynnwys Emmanuel Macron o Ffrainc, canghellor yr Almaen Olaf Scholz a phrif weinidog newydd Yr Eidal, Giorgia Meloni. 

Mae yna hefyd disgwyl i'r cyn prif weinidog Boris Johnson mynychu'r digwyddiad, rhywbeth mae nifer yn credu gwnaeth sbarduno tro pedol y Llywodraeth. 

Mae'r digwyddiad Sharm el-Sheikh hefyd yn nodi diwedd arlywyddiaeth COP y DU, wedi i Glasgow cynnal y gynhadledd y llynedd. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.