Newyddion S4C

O’r Wal Goch i Wal Dre: Murlun Bale yn troi graffiti’n gelf

O’r Wal Goch i Wal Dre: Murlun Bale yn troi graffiti’n gelf

NS4C 05/11/2022

Mae murlun newydd yn dathlu un o arwyr pennaf pêl-droed Cymru wedi ei greu yng Nghaernarfon yng Ngwynedd.

Cafodd y syniad ei gynnig gan bobl ifanc yr ardal fel ffordd o ddefnyddio wal oedd wedi’i gorchuddio â graffiti sarhaus i greu darn o gelf.

Mae’n brosiect sydd wedi ei redeg gan Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd ac wedi ei ariannu gan yr heddlu.

Yn ôl Barry Williams o Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd: “Pobol ifanc sydd ‘di dod i fyny efo’r syniad a ‘dan ni wedi gweithio hefo Andy heddiw ‘ma.

“Ma’r bobol ifanc ‘di mynd, ma’ nhw ‘di gadael ni oherwydd bod hi’n mynd yn hwyr ‘wan,” meddai.

“Mae’r heddlu ‘di ariannu hwn a ‘dan ni isho deud diolch ‘thyn nhw ac eto diolch i’r pobol ifanc hefyd sydd wedi dod fyny ‘fo’r syniad so dwi’n gobeithio fydd y pobol yn dre’ yn mwynhau o a pob lwc i Cymru yn Cwpan y Byd.”

Andy Birch yw’r arlunydd y tu ôl i’r campwaith ar strydoedd Caernarfon.

Dywedodd Andy wrth Newyddion S4C: “Mae’n gyffrous iawn.  Mae ‘na fwrlwm go iawn wedi bod o’r holl bobl leol yn dod heibio a pobl yn canu corn wrth i ni fod yn paentio yma. 

“Felly mae hi wedi bod yn eithaf cyffrous, a pobl yn gweld hen wal oedd yn cael graffiti sarhaus arno, mae nawr ganddi ddarlun mae’r bobl ifanc wedi bod ynghlwm ag o felly mae ganddyn nhw berchnogaeth ohono sy’n dda iawn.”

O’r wal hon yng Nghaernarfon i Wal Goch Cymru, mae’r genedl gyfan yn cyfri’r dyddiau tan i’r tîm cenedlaethol wireddu breuddwyd yn Qatar.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.