Dim etholiad yng Ngogledd Iwerddon ym mis Rhagfyr
Mae ysgrifennydd Gogledd Iwerddon wedi cadarnhau na fydd etholiad cynulliad Stormont yn cael ei gynnal ym mis Rhagfyr.
Roedd Chris Heaton-Harris wedi dweud y byddai’n galw pôl arall ar ôl i’r terfyn amser i adfer rhannu pŵer fynd heibio’r wythnos ddiwethaf.
Mae'r gyfraith yn gofyn am bleidlais o fewn 12 wythnos i'r dyddiad cau hwnnw, sef 28 Hydref, ond ni fydd yn digwydd fis nesaf.
Nid yw’r llywodraeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon wedi gweithredu ers mis Chwefror, gyda’r Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) yn atal ffurfio’r weithrediaeth sy’n rheoli.
Dywed y DUP fod y penderfyniad wedi ei wneud mewn protest yn erbyn trefniadau masnachu ar ôl Brexit.
Mae Unoliaethwyr yn gwrthwynebu’r cytundeb ôl-Brexit oherwydd y rhwystrau economaidd fydd yn bodoli rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Mr Heaton-Harris na fyddai etholiad "yn cael ei gynnal ym mis Rhagfyr na chyn y Nadolig.”
Dywedodd ei fod wedi gwrando ar "bryderon pobl am effaith a chost etholiad ar hyn o bryd".
“Yr wythnos nesaf byddaf yn gwneud datganiad yn y Senedd i osod allan fy nghamau nesaf,” ychwanegodd.