Rio Dyer i ennill ei gap gyntaf i Gymru yn erbyn Seland Newydd
Rio Dyer i ennill ei gap gyntaf i Gymru yn erbyn Seland Newydd
Mae prif hyfforddwr rygbi Cymru, Wayne Pivac, wedi enwi ei dîm i wynebu Seland Newydd ddydd Sadwrn, gan roi cap cyntaf i Rio Dyer.
Mae'r asgellwr 22 oed wedi serennu i'r Dreigiau yn ystod y Bencampwriaeth Rygbi Unedig hyd yn hyn, gan sgorio pedwar cais mewn chwe gêm.
Fe fydd Dyer yn gobeithio dilyn trywydd y seren ifanc arall sydd yn dechrau ar yr asgell ddydd Sadwrn, gyda cefnogwyr yn cyffroi am Louis Rees-Zammit yn dilyn dechreuad ffyrnig i'r tymor gyda'i glwb Caerloyw.
Er bod yr asgellwyr yn ifanc, mae Wayne Pivac yn cwblhau ei dri yn y cefn gydag un o chwaraewyr mwyaf profiadol Cymru, Leigh Halfpenny. Mae'r cefnwr yn dychwelyd i dîm Cymru am y tro cyntaf ers mis Gorffennaf 2021, pan ddioddefodd anaf i'w ben glin ar ôl llai na munud yn ystod ei 100fed cap.
Nid dim ond Halfpenny sydd yn dychwelyd i'r garfan ar ôl sbel gydag anaf.
Mae Ken Owens yn dechrau fel bachwr yn ei gêm gyntaf ers pencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd ac fe fydd Justin Tipuric yn chwarae ei gêm ryngwladol gyntaf mewn blwyddyn a hanner, gan arwain y tîm fel capten.
Er iddo fod yn gapten, mae Tipuric wedi'i symud o'i safle arferol ar y flaenasgell ochr agored i'r ochr dywyll er mwyn gwneud lle i Tommy Reffell.
Fe wnaeth Reffell serennu yn ystod taith Cymru i Dde Affrica dros yr haf, ac fe fydd yn gobeithio parhau gyda'i berfformiadau arbennig yn erbyn Seland Newydd.
Fe fydd Reffell yn rhan o grŵp o flaenwyr profiadol, gan gynnwys Taulupe Faletau, Thomas Francis ac Adam Beard, a fydd yn ceisio arafu chwarae cyflym y Crysau Duon.
Ymysg yr olwyr, mae Gareth Anscombe yn dechrau fel maswr yn lle'r capten Dan Biggar, sydd wedi'i anafu. Tomos Williams sydd wedi'i ddewis fel mewnwr fel partner i Anscombe yn yr haneri.
Mae yna hefyd gyfle i'r bartneriaeth rhwng Nick Tompkins a George North ddangos eu gallu wedi i Pivac arbrofi'n gyson gyda'i ganolwyr yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.
Ar y fainc, mae yna ragor o gynrychiolaeth o'r criw profiadol, wrth i Alun Wyn Jones obeithio ennill ei 154 cap rhyngwladol, tra bydd Rhys Priestland yn barod i gamu mewn yn hwyr yn y gêm.
Ond mae Pivac hefyd wedi rhoi cyfleoedd i chwaraewyr ifanc ochr yn ochr â'r rhai profiadol, wrth i Christ Tshiunza edrych i ennill dim ond ei drydydd cap i Gymru.
Mae'r garfan gymysg o henoed ac ieuenctid yn wynebu clamp o her yn erbyn Seland Newydd, sydd wedi ennill 32 gêm yn olynol yn erbyn Cymru.
Fe fydd rhaid i'r crysau cochion fod ar eu gorau yn erbyn carfan o sêr fel Beauden Barrett, Aaron Smith ac Ardie Savea os ydynt yn gobeithio ennill eu gêm gyntaf yn erbyn y Crysau Duon ers 1953.
Carfan Cymru
15. Leigh Halfpenny, 14. Louis Rees-Zammit, 13. George North, 12. Nick Tompkins, 11. Rio Dyer, 10. Gareth Anscombe, 9. Tomos Williams, 1. Gareth Thomas, 2. Ken Owens, 3. Tomas Francis, 4. Will Rowlands, 5. Adam Beard, 6. Justin Tipuric, 7. Tommy Reffell, 8. Taulupe Faletau.
Eilyddion: 16. Ryan Elias, 17. Nicky Smith, 18. Dillon Lewis, 19. Alun Wyn Jones, 20. Christ Tshiunza, 21. Kieran Hardy, 22. Rhys Priestland, 23. Owen Watkin.
Llun: Asiantaeth Huw Evans