Ymchwiliad Covid y DU 'methu edrych ar holl faterion Cymru' medd gwrthbleidiau
Bydd yr ymchwiliad annibynnol i'r ymateb i Covid-19 yn y Deyrnas Unedig "methu edrych ar yr holl faterion" sy'n effeithio ar Gymru, yn ôl y gwrthbleidiau.
Daw hyn wrth i'r pwysau gynyddu ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ymchwiliad annibynnol i'w hymateb i'r pandemig.
Mae'r gwrthbleidiau yn ymateb i sylwadau Cadeirydd ymchwiliad Covid y DU na fydd hi'n bosib iddynt ystyried pob agwedd, gan gynnwys y penderfyniadau yng Nghymru, fel rhan o'r ymchwiliad Prydeinig.
Dywedodd y Farwnes Hallet nad oes modd "ymdrin â phob mater" a bod yn rhaid "canolbwyntio ar y penderfyniadau mwyaf arwyddocaol a'r pwysicaf".
Wrth ymateb i'r sylwadau hyn, dywedodd llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, fod "cadarnhad Cadeirydd Ymchwiliad Covid y DU na fydd hi’n gallu edrych ar yr holl faterion perthnasol yng Nghymru, na chwaith yn craffu pob penderfyniad gafodd ei wneud yng Nghymru, yn cadarnhau’r angen am ymchwiliad penodol i Gymru".
"Nid yw hyn yn tawelu meddwl y rhai sy’n parhau i gael eu cythruddo gan ymdrech Llywodraeth Llafur Cymru i osgoi craffu," meddai.
'Nid yn rhy hwyr'
Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, hefyd yn dweud y dylid cynnal ymchwiliad penodol i Gymru.
Ddydd Mawrth, fe ddywedodd Mr Davies y dylai negeseuon WhatsApp rhwng gwleidyddion a swyddogion Llywodraeth Cymru gael eu rhannu â'r ymchwiliad annibynnol.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds AS, fod "sylwadau'r Cadeirydd yn cadarnhau'r hyn yr oeddem ni gyd yn ei bryderu - nad yw ymchwiliad Covid y DU yn mynd i fod yn ddigon perthnasol i benderfyniadau a gafodd eu gwneud yng Nghymru".
"Dylai'r Prif Weinidog a Llafur Cymru gynnal ymchwiliad Covid annibynnol yng Nghymru ar frys. Mae'r Farwnes Hallet wedi dweud ei hun heddiw nad yw hi'n rhy hwyr i wneud hyn," meddai.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn parhau i alw am ymchwiliad sy'n benodol i Gymru
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ym mis Hydref na fyddai ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal yng Nghymru, gan fod y byd bellach wedi symud ymlaen.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn benderfynol o sicrhau bod ein gweithredoedd a'n penderfyniadau - a rhai gwasanaethau cyhoeddus eraill Cymru – yn cael eu craffu'n llawn ac yn briodol".
"Ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan yw'r sefyllfa orau i oruchwylio natur cyd-gysylltiedig y penderfyniadau sydd wedi eu gwneud ar draws y pedair gwlad."