Newyddion S4C

Jason Mohammad yn cael ei gyhoeddi'n Llysgennad S4C

02/11/2022
Jason Mohammad

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd Jason Mohammad yn ymuno â'r sianel fel llysgennad. 

Fe fydd y cyflwynydd teledu a radio yn chwarae rôl ganolog o fewn arlwy S4C yn y dyfodol, gan gychwyn gyda thair cyfres newydd. Bydd Jason hefyd yn cyd-weithio gyda S4C fel ymgynghorydd ar eu strategaeth amrywiaeth, ac yn cynrychioli S4C mewn digwyddiadau.

Mae S4C wedi comisiynu tair rhaglen newydd, gyda Jason Mohammad yn eu cyflwyno, a fydd yn cael eu darlledu yn ystod yr oriau brig. 

Bydd 'Jason a Max ar y Ffordd i Qatar' yn dilyn taith Jason a'i fab gyda'r Wal Goch i'r Cwpan y Byd, gan ddilyn eu siwrne yn cefnogi Cymru yn y gystadleuaeth. 

Fe fydd Jason hefyd yn cyflwyno rhaglen cwis chwaraeon newydd o'r enw Pen/Campwyr, gyda chystadleuwyr yn gorfod ateb cwestiynau er mwyn ennill mantais mewn cyfres o gemau rhithiol yn erbyn rhai o arwyr chwaraeon Cymru, fel James Hook a Natasha Harding. 

Y rhaglen olaf yn y gyfres o gomisiynau newydd yw Jason Mohammad: Stadiymau’r Byd, lle bydd y cyflwynydd yn teithio o gwmpas y byd yn ymweld â rhai o'r stadiymau chwaraeon mwyaf arwyddocaol. 

Yn dilyn y newyddion, dywedodd Jason Mohammad: "Mae S4C wastad wedi chwarae rhan enfawr yn fy mywyd darlledu."

"Rwy’n rhannu eu hangerdd dwfn dros ein hiaith a’n diwylliant, ac edrychaf ymlaen at rannu hynny â gwylwyr a chefnogwyr o bob cwr o’r byd trwy fod yn Llysgennad newydd iddynt."

Ychwanegodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llinos Griffin-Williams, bod y sianel yn "falch iawn" i groesawu Jason fel llysgennad. 

"Mae ei angerdd a’i egni yn adlewyrchu uchelgeisiau a gwerthoedd S4C. Mae’n wyneb cyfarwydd i filiynau o wylwyr ar draws y DU ac mae ei acen a’i lais nodedig o Gaerdydd yn adnabyddus i gynulleidfa radio ddyddiol.

"Mae'n cael ei adnabod fel un o'r prif ffigyrau ym myd darlledu chwaraeon a bydd ei bresenoldeb yn dod â llu o brofiadau ac arbenigedd i'n harlwy."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.