Eiliadau cyntaf S4C yn 1982
01/11/2022
Eiliadau cyntaf S4C yn 1982
Wrth i S4C ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed yr wythnos hon, dyma glip o eiliadau cyntaf y sianel.
Fe ddechreuodd yr arlwy am 18:00 nos Lun 1 Tachwedd 1982.
Y wyneb cyntaf ar y sianel oedd Cyfarwyddwr cyntaf S4C, Owen Edwards.
Wrth groesawu gwylwyr ar draws Cymru i wylio, fe ddywedodd Mr Edwards: "Croeso cynnes iawn iawn i chi ymuno â ni yma am y tro cyntaf ar Sianel Pedwar Cymru."