Newyddion S4C

Peter Ormerod wedi marw yn dilyn 'anaf trawmatig i'w ben'

28/10/2022
Peter Ormerod.png

Bu farw'r cyn-athro Peter Ormerod o “anaf trawmatig i'w ben” yn dilyn ymosodiad honedig, yn ôl cwest gafodd ei agor i'w farwolaeth ddydd Gwener.

Bu farw Mr Ormerod, 75, bedwar diwrnod ar ôl dioddef anafiadau difrifol ar Heol yr Orsaf ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, ar 24 Medi.

Clywodd Llys Crwner Sir Benfro bod swyddogion wedi eu galw i'r lleoliad ar ôl adroddiadau o ymosodiad difrifol.

Dywedodd datganiad gan Heddlu Dyfed-Powys i'r cwest fod Mr Ormerod “wedi dioddef anaf trawmatig i’r pen yn y fan a’r lle ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Treforys, Abertawe" cyn cael ei symud i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddarch.

Dywedodd y crwner cynorthwyol Mark Layton y byddai adroddiad archwiliad post-mortem llawn yn cael ei gwblhau yn yr wythnosau nesaf.

Gohiriodd y cwest er mwyn i'r achos troseddol gael ei gwblhau.

Mae Hywel David Williams, 39 oed o Grangetown, Caerdydd, wedi ei gyhuddo o ddynladdiad Mr Ormerod.

Plediodd Mr Williams yn ddieuog i'r drosedd mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher, cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Bydd yr achos yn ei erbyn yn dechrau ym mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.