
'Canser yn gallu effeithio ar unrhyw un - yr iach a'r ifanc'
'Canser yn gallu effeithio ar unrhyw un - yr iach a'r ifanc'
"Mae Owain yn ysu am fwy o amser gyda Amelia, jyst i sicrhau bod gan Amelia atgofion gyda Owain."
Dyna eiriau Mike Davies, un o ffrindiau gorau Owain James, sy'n 34 oed ac yn byw gyda'i ferch fach a'i wraig, Ellie, yng Nghaerffili.
Ym mis Medi, cafodd y teulu newyddion a fyddai'n newid eu bywydau am byth.
Ddechrau Medi, roedd Owain yn dioddef o gur pen gwael a gan ei fod yn gwaethygu, penderfynodd fynd i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Ar ôl profion, derbyniodd y newyddion ysgytwol fod ganddo diwmor gradd 4 ar yr ymennydd, ac os nad oedd yn gweithredu'n gyflym, dim ond ychydig fisoedd fyddai ganddo ar ôl i fyw.
Yn iach, yn ifanc ac yn chwaraewr pêl-droed brwd, roedd y newyddion yn sioc enfawr i'r teulu, a dywedodd Mike ei bod hi'n hollbwysig i godi ymwybyddiaeth fod canser yn gallu effeithio ar bobl ifanc ac iach fel Owain.
"Ma' Owain yn ddyn ifanc, 34 mlwydd oed a mor iach, o'dd e byth wedi mynd i'r meddyg o blaen, ond mae'n rili pwysig i ddweud bod ar y pryd gafodd e'r pen tost rili wael, a'th e i'r ysbyty yn syth," meddai Mike wrth Newyddion S4C.
"O'dd e'n lwcus, o'dd lle gyda'r ysbyty so oedden nhw'n gallu neud triniaeth ar unwaith i tynnu allan gymaint o'r tiwmor ac oedd yn bosib."

Yn ôl Mike, os na fyddai Owain wedi mynd i'r ysbyty ar unwaith, efallai na fyddai'n fyw heddiw.
"Mae mor bwysig fod pobl yn mynd i'r ysbyty pan ma' rywbeth yn bod. Pe fydde Owain ddim wedi mynd i'r ysbyty ar y diwrnod hwnnw, efallai fydd Owain ddim gyda ni heddiw.
"Ma'r ffaith fod Owain wedi mynd i'r ysbyty, ma' tipyn bach o hope gyda ni, ma' 'na driniaeth ar gael so ma' raid i ni jyst nawr codi'r arian i galluogi fe i cael mwy o amser."
Mae Owain ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth yng Nghanolfan Ganser Felindre.
Yn ôl oncolegydd Owain, imiwnotherapi yw'r opsiwn gorau iddo.
Ond nid yw'r driniaeth ychwanegol yma a fyddai'n gallu ymestyn ei fywyd ar gael gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a phris y driniaeth yw £200,000.
Mae cronfa wedi cael ei chreu yn enw Owain er mwyn ceisio ariannu'r driniaeth hanfodol yma yn ogystal â threfnu digwyddiadau lleol, ac er bod £40,000 wedi ei gasglu hyd yma, mae tipyn o ffordd i fynd er mwyn gallu ariannu'r driniaeth.
"Er bod ni wedi codi lot o arian, ma' dipyn o ffordd i fynd. Ma hon yn driniaeth gostus so ma' lot mwy o arian i'w codi ond 'den ni'n benderfynol fel cymuned o ffrindia' agos a teulu bod raid i ni codi'r arian yma i Owain i galluogi fe i ca'l mwy o amser a mwy o atgofion melys gyda'i merch fach.
"Ma' ffaelu i codi'r arian yma jyst ddim yn opsiwn."