Newyddion S4C

Darlledu dedfryd menyw i garchar am oes am y tro cyntaf

28/10/2022
Defryd

Mae dedfryd menyw i garchar am oes wedi ei ddarlledu'n yn fyw am y tro cyntaf erioed ddydd Gwener. 

Fe fydd Jemma Mitchell, 38, yn treulio o leiaf 34 blynedd yn y carchar ar ôl llofruddio Mee Kuen Chong yn Llundain y flwyddyn ddiwethaf. 

Clywodd y llys bod Mitchell wedi cynllwynio i lofruddio'r fenyw 67 oed, a oedd yn cael ei hadnabod fel Deborah, yn dilyn ffrae dros arian. 

Fe wnaeth Mitchell ladd Ms Chong wedi iddi wrthod talu £200,000 ar gyfer gwaith atgyweirio yn ei thŷ, cyn mynd ymlaen i ffugio ewyllys y wraig weddw er mwyn derbyn rhan fwyaf o'i hystâd. 

Bythefnos ar ôl y llofruddiaeth, fe wnaeth Mitchell deithio i Ddyfnaint er mwyn gadael corff Ms Chong mewn ardal goediog ger Salcolmbe. Cafodd corff Ms Chong ei ddarganfod heb ei phen gan grŵp o gerddwyr. 

Wrth ddedfrydu Mitchell i oes o garchar, dywedodd y Barnwr Richard Marks CB, fod y drosedd yn un "frawychus." 

"Mae yna elfen iasoer am yr hyn wnaethoch i gorff Ms Chong ar ôl ei lladd hi.

"Dydych chi heb ddangos unrhyw edifeirwch ac mae'n ymddangos nad ydych yn gwrthod cydnabod yr hyn yr ydych chi wedi ei wneud." 

Dyma oedd yr ail dro i gamerâu recordio dedfryd llofruddiaeth mewn llys yn y DU, a'r tro cyntaf i'r troseddwr fod yn fenyw. 

Llun:  Elizabeth Cook/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.