Newyddion S4C

Rhagflas o holl gemau Cymru Premier JD dydd Sadwrn

Sgorio 29/10/2022
jd cymru premier / CBD Cymru

Hanner ffordd at yr hollt yn y Cymru Premier JD ac mae’r Seintiau Newydd wedi codi saith pwynt yn glir ar y copa tra bod Cei Connah, Y Bala a Phen-y-bont hefyd yn cystadlu am safle awtomatig i Ewrop.

Wedi 22 rownd o gemau bydd y gynghrair yn hollti’n ddwy a bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn sicrhau eu lle yn y gynghrair am dymor arall, ac yn selio safle yn y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop.

Airbus UK (12fed) v Pontypridd (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30

Dyw hi heb fod y dechrau delfrydol i newydd-ddyfodiaid y gynghrair y tymor yma, ond teg dweud bod Pontypridd yn cael tipyn gwell hwyl nac Airbus ar y funud.

Yn anffodus i Jamie Reed doedd dim stori tylwyth teg i’r rheolwr yn ei gêm gyntaf wrth y llyw i Airbus gan i’r tîm golli am y 10fed tro mewn 11 gêm gynghrair yn erbyn Y Fflint y penwythnos diwethaf.

Colli bu hanes Pontypridd hefyd (YSN 2-0 Pont), ond gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu Ponty ac Aberystwyth (8fed) ar ddechrau’r penwythnos, mae gan hogiau Andrew Stokes gyfle i ddringo’r tabl ddydd Sadwrn.

Cic o’r smotyn hwyr Danny Williams oedd y gwahaniaeth rhwng y timau yn y gêm gyfatebol wrth i Bontypridd gipio’r pwyntiau ym mis Medi (Pont 1-0 Air).

Record cynghrair diweddar:

Airbus UK: ❌❌❌❌➖

Pontypridd: ✅➖❌
 

Hwlffordd (9fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30

Gyda dim ond un buddugoliaeth yn eu 10 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth mae’r hwyliau’n isel yng nghamp Hwlffordd.

Roedd yr Adar Gleision ar frig y gynghrair wedi’r dair gêm agoriadol, ond ers hynny mae Hwlffordd wedi colli chwech o’u wyth gêm gynghrair yn ogystal â cholli yn erbyn timau o’r adrannau îs yng Nghwpan Nathaniel MG ac yng Nghwpan Cymru.

Mae’r Seintiau Newydd saith pwynt yn glir ar frig y tabl, ac er ei bod hi ond yn fis Hydref mae’n deg dweud ei bod hi’n anodd gweld unrhyw un yn dal y pencampwyr cyn diwedd y tymor.

Ers eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Drenewydd ar y penwythnos agoriadol mae’r Seintiau wedi ennill 10 gêm gynghrair yn olynol, ac mae tîm Craig Harrison wedi codi gêr yn ystod y mis diwethaf gan sgorio 27 o goliau mewn chwe gêm (4.5 gôl y gêm).

Ar ben hynny, mae’r Seintiau wedi ennill 10 o’u 11 gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd, ac ond wedi colli un o’u 22 gêm ddiwethaf yn erbyn yr Adar Gleision, felly fe allai fod yn brynhawn caled i Tony Pennock a’r tîm.

Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌✅➖
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅

 

Met Caerdydd (6ed) v Caernarfon (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf mae’r ddau glwb yma yn hafal ar bwyntiau ar ôl ennill chwech a cholli pump o’u gemau cynghrair y tymor hwn.

Dyw Met Caerdydd ond wedi colli un o’u 14 gêm gynghrair ar Gampws Cyncoed yn 2022, ond fe gollon nhw’r gêm honno mewn steil (Met 0-7 YSN).

Mae’r Cofis wedi colli pob un o’u pedair gêm gynghrair oddi cartref y tymor yma ac wedi dibynnu ar berfformiadau cadarn ar yr Oval i gasglu eu pwyntiau eleni (ennill 6 o’u 7 gêm gartref).

Mae gemau cyfartal wedi bod yn bethau prin i’r ddau glwb yma’n ddiweddar gan fod y myfyrwyr heb gael gêm gyfartal yn y gynghrair ers Ebrill (15 gêm) a Chaernarfon heb rannu pwyntiau ers mis Chwefror (22 gêm).

Mae gan y Cofis record wych yn erbyn y myfyrwyr gyda Caernarfon yn ennill eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd gan gynnwys eu buddugoliaeth nodedig o 5-1 ar yr Oval yn gynharach y tymor hwn.

Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ✅❌✅❌❌
Caernarfon: ❌✅✅❌❌

 

Y Bala (3ydd) v Pen-y-bont (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Bydd hi’n frwydr gyffrous ar Faes Tegid ddydd Sadwrn rhwng dau dîm sydd yn hafal ar bwyntiau yn y ras i sicrhau pêl-droed Ewropeaidd.

Chwaraeodd Y Bala’n erbyn Sligo Rovers yn ystod yr haf ar ôl sicrhau eu lle yn Ewrop am yr wythfed tro ers 2013, ond boddi wrth y lan oedd hanes Pen-y-bont, a bydd y clwb o Fryntirion yn benderfynol o fynd gam ymhellach eleni.

Mae’r Bala wedi ennill saith o’u wyth gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, gyda’r unig golled yn ystod y rhediad hwnnw yn dod yn erbyn y pencampwyr, Y Seintiau Newydd.

Mae gorffen yn y 3ydd safle wedi bod yn ddigon i selio lle’n Ewrop ym mhob un o’r wyth tymor diwethaf, a gan mae dim ond y ddau uchaf yn y gynghrair sydd wedi llwyddo i guro Pen-y-bont y tymor yma (YSN a Cei Connah), dyw anelu am y tri uchaf ddim yn darged rhy uchelgeisiol i’r gleision.

Y Bala orffennodd yn 2il llynedd, ond mae Pen-y-bont eisoes wedi curo criw Colin Caton y tymor hwn diolch i ddwy gôl Rhys Kavanagh ar y penwythnos agoriadol (Pen 2-0 Bala), ond dyw tîm Rhys Griffiths erioed wedi ennill oddi cartref ym Maes Tegid.

Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅❌✅✅✅

Pen-y-bont: ❌✅➖➖✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.