Newyddion S4C

Cip ar gemau Cymru Premier JD nos Wener

Sgorio 28/10/2022
Penybont v Cei Connah

Hanner ffordd at yr hollt yn y Cymru Premier JD ac mae’r Seintiau Newydd wedi codi saith pwynt yn glir ar y copa tra bod Cei Connah, Y Bala a Phen-y-bont hefyd yn cystadlu am safle awtomatig i Ewrop.

Wedi 22 rownd o gemau bydd y gynghrair yn hollti’n ddwy a bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn sicrhau eu lle yn y gynghrair am dymor arall, ac yn selio safle yn y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop.

Nos Wener, 28 Hydref

Cei Connah (2il) v Y Drenewydd (10fed) | Nos Wener – 19:45 (S4C arlein)

Mae Cei Connah wedi codi i’r ail safle ar ôl ennill wyth gêm yn olynol gan ildio dim ond unwaith yn ystod y rhediad rhagorol hwnnw.

Er hynny, yn rhyfeddol, dim ond y ddau glwb isa’n y tabl sydd wedi sgorio llai o goliau na thîm Neil Gibson yn y gynghrair y tymor yma (13 gôl mewn 11 gêm).

Ond mae record amddiffynnol Cei Connah yn anhygoel gan nad yw’r Nomadiaid wedi ildio gôl gartref yn y gynghrair ers mis Ionawr (12 gêm heb ildio / dros 18 awr o chwarae).

Mae’r Drenewydd wedi cael tymor digon rhwystredig hyd yn hyn gyda’r Robiniaid yn eistedd yn y 10fed safle, dim ond un pwynt uwchben safleoedd y cwymp.

Cafodd Y Drenewydd ddechrau addawol gyda gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Seintiau Newydd, ond dyw tîm Chris Hughes ond wedi ennill tair o’u 11 gêm gynghrair y tymor yma.

Dyw’r Drenewydd ond wedi ennill un o’u 12 gêm flaenorol yn erbyn Cei Connah chwaith, ond fe ddaeth y fuddugoliaeth honno ar eu hymweliad diwethaf â Stadiwm Glannau Dyfrdwy fis Hydref llynedd (Cei 0-2 Dre).

Ers y golled honno dros flwyddyn yn ôl, dyw Cei Connah ond wedi colli un gêm gynghrair gartref (Cei 2-3 Barri), sef yr unig dro iddyn nhw ildio gartref yn y gynghrair mewn 12 mis (16 llechen lân mewn 17 gêm).

Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅✅✅✅
Y Drenewydd: ❌✅❌❌➖

 

Aberystwyth (8fed) v Y Fflint (7fed) | Nos Wener – 20:00

Ar Goedlan y Parc bydd hogiau Anthony Williams yn anelu i ennill eu pedwaredd gêm gartref yn olynol yn y gobaith o godi’n hafal ar bwyntiau gyda’r Fflint.

Mae Aberystwyth wedi ennill 2-1 gartref yn erbyn Cei Connah, Airbus UK a Hwlffordd yn ystod y mis diwethaf, ond wedi colli tair gêm oddi cartref rhwng y buddugoliaethau rheiny.

Ar ôl ennill eu dwy gêm agoriadol mae’r Fflint wedi arafu braidd gyda dim ond dwy fuddugoliaeth mewn naw gêm gynghrair, a’r ddwy yn erbyn Airbus UK sydd ar waelod y tabl.

Ond dyw’r Fflint heb golli dim un o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth, gan ildio dim ond unwaith yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon yn ystod y cyfnod hwnnw (ennill 4, cyfartal 1).

Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ❌✅❌✅
Y Fflint: ✅❌➖❌➖

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.