Newyddion S4C

Michael a Mary

Teyrnged i ŵr a gwraig oedrannus fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro

NS4C 27/10/2022

Mae teulu gŵr a gwraig oedrannus fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro wedi rhoi teyrnged iddynt. 

Bu farw Michael McDonald, 87, a'i wraig, Mary, 78, yn y fan a'r lle mewn gwrthdrawiad ar yr A4115 rhwng Treamlod a Cross Hands ddydd Mawrth, 25 Hydref.  

Mewn teyrnged, dywedodd eu teulu fod "Michael a Mary yn rieni cariadus i saith o blant ac roedd ganddyn nhw 15 o wyrion a saith o or-wyrion". 

"Roedden nhw'n Gatholigion ymroddedig a oedd yn amlwg yng nghymuned blwyfol Dinbych-y-Pysgod dros y 40 mlynedd diwethaf.

"Bydd pawb yn eu colli nhw."

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad rhwng Hyundai i10 arian, Peugeot 3008 gwyn a Mini arian.

Maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20221025-299.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.