Newyddion S4C

Peter Ormerod: Dyn yn gwadu dynladdiad cyn-athro o Sir Gâr

26/10/2022
Peter Ormerod.png

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o ddynladdiad cyn-athro o Sir Gaerfyrddin.

Bu farw Peter Ormerod, 75, bedwar diwrnod ar ôl iddo gael ei anafu'n ddifrifol ym Mhorth Tywyn ym mis Medi.

Fe ymddangosodd Hywel David Williams, 39, o Grangetown yng Nghaerdydd o flaen Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.

Fe blediodd yn ddieuog i'r cyhuddiad yn ei erbyn ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.

Bu farw Peter Ormerod ar 28 Medi.

Mewn datganiad ar y pryd, rhoddodd ei deulu deyrnged i'w tad a thad-cu "annwyl", gan ychwanegu y bydd colled fawr ar ei ôl. 

“Roedd Peter yn berson uchel ei barch, fel athro ac fel aelod o'r gymuned," meddai'r teulu.

Bydd yr achos llys yn dechrau ar 10 Gorffennaf flwyddyn nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.