Karim Benzema yn ennill y Ballon d'Or

Mail Online 18/10/2022
Karim Benzema

Mae chwaraewr Real Madrid, Karim Benzema, wedi ennill y Ballon d'Or ar gyfer 2022. 

Mae'r Ballon d'Or yn cael ei gwobrwyo ar gyfer chwaraewr pêl-droed gorau'r flwyddyn ac yn un o'r anrhydeddau mwyaf y gall chwaraewr ennill. 

Fe wnaeth Benzema, sy'n 34 oed, gipio'r wobr ar ôl tymor anhygoel gyda Real Madrid, lle sgoriodd 44 gol mewn 46 gem gan ennill y gynghrair yn Sbaen a Chynghrair y Pencampwyr. 

Benzema yw'r chwaraewr Ffrengig cyntaf i ennill y wobr ers Zinedine Zidane a fo yw'r chwaraewr hynaf i gipio'r Ballon d'Or ers 1956. 

Yn ystod y seremoni wobrwyo ym Mharis nos Lun fe wnaeth Alexis Putellas ennill y Balon d'Or yn y categori menywod. Gavi gafodd ei wobrwyo gyda'r tlws Kopa ar gyfer y chwaraewr gorau o dan 21 oed. 

Darllenwch fwy yma. 

Llun: Anton Zaitzev 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.