Newyddion S4C

Cyfle i dimau'r JD Cymru Premier gau'r bwlch ar frig y gynghrair

Sgorio 23/09/2022
Drenewydd

Gan y bydd y ddau dîm uchaf yn brysur yn cystadlu yng Nghwpan Her yr Alban, mae cyfle i’r clybiau eraill gau’r bwlch ar Y Seintiau Newydd a Chaernarfon ar frig y Cymru Premier JD y penwythnos yma.

Airbus UK (12fed) v Y Drenewydd (9fed) | Nos Wener – 19:45

Mae dechrau difrifol Airbus yn parhau gyda’r newydd-ddyfodiaid wedi colli pob un o’u chwe gêm ers esgyn yn ôl i’r uwch gynghrair.

Mae Airbus wedi codi i’r gynghrair eleni ar draul Derwyddon Cefn, clwb orffennodd y tymor diwethaf gyda dim ond naw pwynt ar ôl methu ag ennill gêm gynghrair tan fis Mawrth, a bydd Steve O’Shaughnessy yn awyddus bod ei dîm yn osgoi tynged tebyg y tymor hwn.

Dyw pethau heb fynd yn esmwyth i’r Drenewydd chwaith gyda’r Robiniaid yn eistedd dim ond un pwynt uwchben safleoedd y cwymp yn dilyn eu colled gartref yn erbyn Pen-y-bont brynhawn Sadwrn (Dre 2-3 Pen).

Enillodd Y Drenewydd o 7-0 ar y Maes Awyr ‘nôl ym mis Ebrill 2017, ond mae criw Chris Hughes wedi methu a sgorio yn eu dwy gêm yn erbyn Airbus UK ers y fuddugoliaeth swmpus honno.

Record cynghrair diweddar:
Airbus UK: ❌❌❌❌❌
Y Drenewydd: ❌✅✅❌

Pen-y-bont (3ydd) v Aberystwyth (11eg) | Nos Wener – 19:45

Mae Pen-y-bont yn un o dri chlwb sy’n dechrau’r penwythnos bedwar pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd ar ôl ennill pedair a cholli dwy o’u gemau cynghrair hyd yma (hafal â Chaernarfon a Met Caerdydd).

Aberystwyth achosodd y sioc fwyaf y penwythnos diwethaf drwy ddod a’u rhediad o bedair colled yn olynol i ben gyda buddugoliaeth o 2-1 gartref yn erbyn Cei Connah.

Ond roedd ‘na siom i’r ddau dîm yma yng Nghwpan Nathaniel MG nos Fawrth gan i Ben-y-bont golli 1-2 gartref yn Rhydaman, ac Aberystwyth yn colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Met Caerdydd.

Dyw Aberystwyth erioed wedi ennill oddi cartref yn erbyn Pen-y-bont, ac fe enillodd hogiau Rhys Griffiths eu dwy gêm gynghrair yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon y tymor diwethaf heb ildio gôl (Aber 0-3 Pen, Pen 4-0 Aber).

Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅✅
Aberystwyth: ✅❌

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.