Newyddion S4C

Y Canghellor yn gostwng nifer o drethi mewn ymgais i hybu twf

23/09/2022

Y Canghellor yn gostwng nifer o drethi mewn ymgais i hybu twf

Mae Canghellor Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn o fesurau newydd i geisio hybu twf economaidd fel rhan o’i ymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.

Wrth siarad yn Nhy'r Cyffredin fore dydd Gwener, dywedodd Kwasi Kwarteng y byddai 'Cynllun Twf' newydd y llywodraeth yn cynnwys 30 o fesurau gwahanol, gan nodi “oes newydd i Brydain.”

Daw hyn wedi i Fanc Lloegr gyhoeddi fod cyfraddau llog wedi codi i 2.25% ddydd Iau, sef y lefel uchaf ers mis  Tachwedd 2008 ar adeg y dirwasgiad economaidd diwethaf.

Mae'r Blaid Lafur wedi disgrifio'r gyllideb fechan fel "bwydlen heb brisiau" gyda'r cyfoethog mewn cymdeithas yn elwa fwyaf ohoni.

Roedd y llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi dydd Iau eu bod yn gwyrdroi'r cynnydd o 1.25% mewn Yswiriant Gwladol, gyda'r newid yn dod i rym o 6 Tachwedd. 

Fel rhan o'r gyllideb newydd, mae'r llywodraeth wedi cael gwared â chynlluniau i godi treth gorfforaeth, sef y dreth sydd wedi ei seilio ar elw blynyddol mae cwmni yn ei wneud. 

Roedd disgwyl i'r dreth gynyddu o 19% i 25% ym mis Ebrill 2023 o dan gynlluniau'r cyn Brif Weinidog, Boris Johnson. 

Taliadau bonws

Yn ogystal â'r mesurau yma, mae'r Canghellor wedi cyhoeddi y bydd y cap ar daliadau bonws i fancwyr sydd yn gweithio yn y gwasanaethau ariannol yn cael ei diddymu. 

Mae'r Canghellor hefyd wedi cyhoeddi toriadau mewn treth incwm.

Fe fydd y dreth ar enillion rhwng £12,571 a £50,270 yn gostwng i 19% ym mis Ebrill 2023, sydd yn cynrychioli toriad mewn treth i 31 miliwn o bobl. 

Fe wnaeth y Canghellor hefyd gyhoeddi y bydd y gyfradd uchaf o dreth incwm - 45% ar unrhyw enillion dros £150,000 - yn cael ei ddidymu. Mae hyn yn golygu mai'r gyfradd uchaf o dreth y bydd unrhyw un yn ei dalu fydd 40%.

Y gred yw y gallai'r mesurau hyn gostio o leiaf £30bn. 

Parthau treth isel

Hefyd fel rhan o’r cynlluniau newydd, mae’r llywodraeth yn bwriadu sefydlu ‘parthau treth isel’ ar draws y DU i geisio cynyddu buddsoddiadau economaidd.

Fe fydd y lleoliadau yma yn cynnig toriadau ychwanegol mewn trethi i fusnesau a chyfyngiadau cynllunio llai llym mewn ymdrech i hybu datblygiadau a chreu swyddi.

Bydd y llywodraeth yn cynnal trafodaethau gyda 38 awdurdod lleol yn Lloegr a’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i sefydlu'r lleoliadau hyn.

Bydd y llywodraeth hefyd yn cyhoeddi deddfwriaeth newydd i geisio cyflymu datblygiad prosiectau isadeiledd.

Yn ôl y Canghellor, bydd newidiadau yn cael eu gwneud i gyfyngiadau amgylcheddol er mwyn cyflymu tua 100 o brosiectau, gan gynnwys ffyrdd a rheilffyrdd newydd.

Wrth gyhoeddi'r pecyn newydd, dywedodd Kwasi Kwarteng: "Nid yw twf yn ddigon uchel, sydd wedi gwneud hi'n anoddach i dalu am wasanaethau cyhoeddus, sydd yn golygu yr oedd rhaid cynyddu trethi."

"Mae’r cylch negyddol hwn wedi arwain at y rhagdybiaeth y bydd y baich treth yn cyrraedd y lefelau uchaf ers diwedd y 1940au.

 “Rydym yn benderfynol o dorri’r cylch hwn. Mae angen dull newydd arnom ar gyfer cyfnod newydd sy'n canolbwyntio ar dwf.

“Byddwn ni’n feiddgar ac hyderus wrth fynd ar drywydd twf – hyd yn oed lle mae hynny’n golygu gwneud penderfyniadau anodd."

'Economeg y casino'

Wrth ymateb i gyhoeddiad y Canghellor, dywedodd Canghellor yr wrthblaid, Rachel Reeves A.S. fod y newidiadau yn y gyllideb yn dangos fod y llywodraeth wedi "dychwelyd i arferion y gorffennol" yn hytrach na chreu "dyfodol newydd dewr.

"Economeg y casino yw hyn - sydd yn gamblo morgeisi a chyllid pob teulu yn y wlad. Mae’n ddi-hid, ac mae’n anghyfrifol," meddai.

“Yr hyn rydyn ni wedi’i weld heddiw yw esgeulustod dybryd. Mae'r Ceidwadwyr yn benderfynol o gael cyllideb sy'n dwyn y tlawd i dalu am y cyfoethogion mawr.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts fod datganiad y Canghellor "wedi’i ddatgysylltu o realiti".

"Mae cartrefi a busnesau ledled Cymru yn wynebu gaeaf difrifol o filiau anfforddiadwy a chwyddiant didrugaredd. Mae miloedd o gartrefi gwledig yng Nghymru yn wynebu cynnydd aruthrol mewn costau olew gwresogi. Mae’r swm prin o £100 gan Lywodraeth y DU yn symbolaidd ac yn annigonol.

"Yn y cyfamser mae'r Torïaid yn cael gwared ar y gyfradd o 45% o dreth incwm i'r rhai sy'n ennill y cyflogau uchaf."

Dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: “Bydd rhywun ar £200,000 y flwyddyn yn elwa o £3,000 y flwyddyn yn ychwanegol, tra bydd y rhai sydd ar y trywydd iawn yn parhau i wynebu trafferth.

“Dyma’r gyllideb fwyaf anghyfrifol yn ariannol i mi ei gweld erioed ac mae’n anochel y bydd yn arwain at naill ai doriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus neu fwy o ddyled i’n plant a’n hwyrion drwy fenthyca cynyddol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.