Newyddion S4C

'Angen croesawu pobl i Gymru, nid eu gelyniaethu'

'Angen croesawu pobl i Gymru, nid eu gelyniaethu'

NS4C 22/09/2022

Mae un o gyfranwyr y gyfres newydd 'Symud i Gymru' ar S4C wedi dweud bod angen croesawu pobl i Gymru, nid eu gelyniaethu.

Dywedodd Bethan Jones, sydd yn tywys cwpl o Loegr o gwmpas Ynys Môn ar y rhaglen, bod angen croesawu pobl i'r wlad, ond bod angen i'r rheiny sydd yn dod i Gymru barchu'r iaith.

"Ma' nhw mynd i ddod i mewn, 'da ni methu stopio pobl rhag dod i fewn yma, 'da ni ddim mynd i adeiladu wal fatha Trump nachdan?

"Ond be 'da ni'n deud rili ydy 'dewch i Gymru os 'da chi am ddod, ond cofiwch barchu ni pryd 'da chi yma a sylweddoli bod gennym ni ffordd o fyw, bo' ni yn siarad Cymraeg, yn gneud bob dim o ddydd i ddydd drwy gyfrwng y Gymraeg a dim novelty ydio.'"

Yn y gyfres newydd, mae darpar brynwyr yn cael eu paru â pherson lleol fydd yn dangos eiddo iddynt o fewn eu cyllideb ac hefyd yn rhoi cipolwg iddynt o'r gymuned a'r ardal y maen nhw'n bwriadu symud iddi.

Y pwrpas yw rhoi blas ar fywyd yn yr ardal cyn i'r darpar brynwyr benderfynu os ydynt am symud i fyw i Gymru'n barhaol.

Mae'r gyfres hefyd yn mynd i'r afael â'r sensitifrwydd o amgylch ail gartrefi a'r farchnad dai yng Nghymru.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.